Bydd yr Alban yn gwneud yn well dan glymblaid David Cameron na Chymru, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones heddiw.

Dywedodd y byddai’n anodd amddiffyn gwasanaethau rheng flaen rhag wynebu toriadau oherwydd bod Llywodraeth y Cynulliad eisoes wedi torri costau yn barod.

Roedd hynny’n golygu nad oedd yna lot o le i dorri gwastraff a biwrocratiaeth, meddai.

Cyhoeddwyd ddoe y byddai’r rhaid i Lywodraeth Cymru dorri £187 miliwn o’i gyllideb eleni, er y byddai’n derbyn £24 miliwn ychwanegol drwy Fformiwla Barnett.

Mae llywodraeth glymblaid San Steffan wedi dweud wrth Lywodraeth Cymru y gallen nhw oedi’r toriadau tan y flwyddyn nesaf er mwyn gwarchod eu cyllideb £16 biliwn ar gyfer 2010-11.

Dywedodd llywodraeth San Steffan eu bod nhw’n cydnabod cwynion ynglŷn â fformiwla Barnett sy’n gosod lefel yr arian mae Cymru yn ei dderbyn.

Ond fe fydd yn rhaid i Gymru ddisgwyl tan fod yna drefn ar y pwrs cyhoeddus cyn ei bod nhw’n cyflwyno argymhellion Comisiwn Holtham, a ddaeth i’r casgliad gan oedd y fformiwla yn deg.

Hefydr cyhoeddodd y llywodraeth yn araith y frenhines heddiw y byddai argymhellion Comisiwn Calman ar gyfer datganoli yn yr Alban yn cael eu cyflwyno.

“Dw i ddim yn gallu deall sut mae’r Alban wedi dod allan o hyn yn llawer gwell na Chymru,” meddai Carwyn Jones wrth ateb cwestiynau yn y Senedd.

“Mae’r Alban wedi cael Calman ond ni fydd Cymru yn gweld unrhyw gynnydd ar Gomisiwn Holtham. Dydw i ddim yn deall hynny.

“Unwaith eto mae Cymru wedi colli o ganlyniad i’r llywodraeth glymblaid yma tra bod yr Alban wedi ei hamddiffyn.”

Dywedodd y dylai’r Democratiaid Rhyddfrydol, sydd wedi siarad yn erbyn Fformiwla Barnnett yn y gorffennol, fod wedi gorfodi’r llywodraeth i gyflwyno argymhellion Comisiwn Holtham.

“Mae nifer o’r arbedion gweinyddol sy’n cael eu gwneud yn Whitehall ar hyn o bryd wedi eu gwneud yng Nghymru yn barod,” meddai.

“Mae’n anochel y bydd o’n anodd cynnal gwasanaethau rheng flaen pan fydd yr holl doriadau yn dod.”

Cadarnhaodd na fyddai pencadlys Llywodraeth y Cynulliad ym Mharc Cathays yn cael ailwampiad £42m yn sgil y toriadau.

Ymateb y pleidiau eraill

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams, na ddylai Llafur feio llywodraeth San Steffan am broblemau Cymru ar ôl degawd o ddatganoli.

“Rydw i’n deall y byddech chi’n treulio’r 50 wythnos nesaf yn beio Llundain am bopeth. Ond o ystyried ein bod ni eisoes wedi cael 11 mlynedd o ddatganoli, beth am i chi feddwl am eich strategaeth newydd ar gyfer mynd i’r afael gyda phroblemau’r gorffennol?”

Gofynnodd arweinydd y Ceidwadwyr, Nick Bourne, pam bod costau gweinyddol yn uwch yng nghyllideb datblygiad economaidd Llywodraeth Cymru nag yn y gyllideb iechyd ac addysg.