Mae Undeb Rygbi Cymru yn bwriadu buddsoddi £1m mewn menter newydd i ddatblygu rygbi gwerin gwlad yng Nghymru.
Bydd yr arian yn talu am offer i dros 300 o glybiau Cymreig a bydd yn cael ei benderfynu trwy system pwyntiau fydd yn gwobrwyo ymdrechion clybiau sy’n ehangu’r gêm yng Nghymru.
Mae Undeb Rygbi Cymru hefyd am sicrhau bod y prosiect yn helpu i gynnal rygbi fel gêm genedlaethol Cymru.
Bydd y cynllun yn help i foderneiddio offer a chyfleusterau sydd ar gael i chwaraewyr, hyfforddwyr, cefnogwyr a gwirfoddolwyr.
Bydd clybiau yn gallu defnyddio’r pwyntiau y maen nhw wedi derbyn am eu hymdrechion i ehangu’r gêm i hawlio eitemau o lyfryn sy’n cael ei baratoi gan Undeb Rygbi Cymru erbyn diwedd mis Mehefin.
“Mae’n gyfnod anodd yn ariannol i gymunedau yng Nghymru ac mae’r undeb yn credu ei fod yn bwysig buddsoddi yng nghlybiau Cymru,” meddai Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis.
“Mae clybiau rygbi yng nghanol ein cymunedau ac fe fydd y fenter yma’n helpu nhw i chwarae rhan arwyddocaol ym mywyd Cymreig.
“Mae’n rhaid i ni gynnal y weledigaeth o wneud ein clybiau mor fodern, perthnasol a chynhwysol ag sy’n bosib.”
Ymateb maswr Cymru
Mae maswr y Scarlets, Stephen Jones, wedi croesawu’r cynllun gan ddweud bydd yn hwb gwych i glybiau Cymru.
“Mae pob chwaraewr sydd wedi cael eu dewis i chwarae dros Gymru wedi bod ar hyd llwybr oedd wedi dechrau yn y gêm gymunedol,” meddai’r maswr.
“Heb gêm lefel sylfaenol sy’n ffynnu, ni fyddwn ni’n gallu sicrhau bod lefel eiltaidd rygbi yn llwyddiannuss yn y dyfodol.”