Mae lladron wedi lladd 15 o bobol wrth ymosod ar sawl siop gwerthu aur yn Baghdad heddiw.

Cyrhaeddodd y dynion ardal Baiyaa yn ne-orllewin Baghdad mewn pum car, gyda’u hwynebau wedi’u gorchuddio gyda sgarffiau Arabaidd traddodiadol.

Ffrwydrodd y dynion fom ger y siopau, gan ladd pedwar o bobol. Yna fe ddechreuon nhw saethu tuag at 12 siop, gan ladd naw perchennog a dau o bobol eraill.

Wrth i drais sectyddol yn y ddinas ostegu mae trais troseddol wedi llenwi’r bwlch. Y gred yw mai cyn wrthryfelwyr di-waith sydd wrthi.

Troseddau ar gynnydd

Mae llywodraeth y wlad yn dal i ganolbwyntio’n bennaf ar y trais sectyddol a ddaeth yn agos at wthio’r wlad i ryfel cartref rhwng y Sunni a’r Shiite yn 2007.

Ond er nad oes ystadegau manwl ynglŷn â throseddau yn y wlad mae torcyfraith bellach ar dop rhestr cwynion pobol Irac, y tu ôl i ddiffyg trydan a gwasanaethau eraill.

Dros y misoedd diwethaf mae’r brifddinas wedi ei tharo gan gyfres hir o ladradau arfog, gan daro perchnogion ceir, siopau gwerthu tlysau, banciau a siopau trosglwyddo arian.