Mae teulu Bethan Callaghan wedi rhyddhau datganiad yn dilyn cyhuddo Terry Andrews o’i llofruddiaeth yn Llys Merthyr Tydful heddiw.

Fe ddywedodd y teulu eu bod nhw wedi dioddef wyth mis o “boen a phryder” ond y bydden nhw heddiw yn gallu ffarwelio gyda Bethan yn gwybod fod “cyfiawnder wedi’i wneud”.

“Os oes unrhywbeth positif a all ddod allan o’r drasiedi hon – rydan ni’n gobeithio na fydd pobol sy’n dioddef o drais domestig yn dioddef mewn tawelwch. Rydan ni eisiau iddyn nhw godi’r ffôn.”

Fe wnaeth y teulu ddiolch hefyd i Heddlu De Cymru am eu gwaith “wrth dod a Terry Andrews i gyfiawnder.”

Fe ddywedodd Ditectif Arolygydd Mark Lewis o Heddlu De Cymru eu bod yn cydymdeimlo â theulu Bethan a’u bod yn gobeithio y bydd penderfyniad y rheithgor heddiw yn dod a pheth tawelwch i’r teulu.

“Mae Heddlu De Cymru wedi ymrwymo i fynd i’r afael â thrais yn y cartref,” meddai’r Heddlu.

Fe ddylai unrhyw un sy’n dioddef o drais yn y cartref, neu sydd â gwybodaeth am achos,gysylltu â Heddlu De Cymru ar 999 mewn argyfwng neu o dan amgylchiadau arferol, 101 neu 0808 80 10 800.