Mae buddsoddwyr newydd Caerdydd yn awyddus i gadw Joe Ledley gyda’r clwb y tymor nesaf er gwaethaf methiant yr Adar Glas i gyrraedd yr Uwch Gynghrair.
Mae cytundeb presennol y Cymro yn dod i ben yn yr haf ac fe fydd ganddo’r hawl i adael Caerdydd ac arwyddo gyda chlwb arall am ddim.
Pe bai Caerdydd yn ei golli, fe fyddai rhaid i’r clwb sy’n ei arwyddo, dalu iawndal i’r Adar Glas – hyd at £6m yn achos Ledley.
Ond mae’r bwrdd newydd yn awyddus i gynnal trafodaethau gyda’r chwaraewr canol cae’r wythnos yma gyda’r bwriad o ddyblu ei gyflog i £10,000 yr wythnos.
Er hynny mae Ledley eisoes wedi dweud ei fod yn awyddus i chwarae ar y lefel uchaf, ac mae yna amryw o sïon ynglŷn â’i ddyfodol ef ynghyd â nifer o chwaraewyr y clwb.
Mae gan Stoke, Blackburn, Everton, Lerpwl a Celtic ddiddordeb yn chwaraewr rhyngwladol Cymru, ac fe allai’r cyfle i ddangos ei ddoniau yn yr Uwch Gynghrair fod yn ormod o atynfa i Ledley.
Sïon eraill
Mae ‘na son bod Ipswich yn awyddus i arwyddo Michael Chopra gyda’i rheolwr Roy Keane yn awyddus i gyd-weithio gyda’r ymosodwr unwaith eto.
Roedd Keane yn rheoli Sunderland pan dalodd y clwb £5m amdano, ac mae rheolwr Ipswich yn credu byddai Chopra yn ddelfrydol fel ymosodwr i’r clwb y tymor nesaf.
Fe allai’r ymosodwr, Jay Bothroyd hefyd gael y cyfle i chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr gyda West Brom a Birmingham yn awyddus i arwyddo’r chwaraewr talentog.
Mae yna adroddiadau bod Peter Whittingham yn denu diddordeb gan West Ham a Nottingham Forest.
Fe allai Caerdydd hefyd ryddhau Aaron Morris, Warren Feeney, Tony Capaldi, Josh Magennis, Miguel Comminges a Peter Enckelman.