Mae Heddlu Gogledd Cymru’n parhau i apelio am dystion ar ôl i ddyn gael ei saethu yn Llangollen ddydd Mercher diwethaf, 19 Mai.

Mae’r Heddlu’n awyddus i siarad gydag unrhyw un a oedd yn ardal Gwesty Chainbridge am 13:00 ac a welodd Suzuki Vitara du wedi parcio ar ochr yr B5103 sy’n arwain at yr A5 a Llantysilio Hall.

Mae’r Heddlu hefyd yn apelio ar i unrhyw un a glywodd sŵn neu synau saethu yn ystod y cyfnod i gysylltu â hwy.

Mae swyddogion yr heddlu yn awyddus i siarad gyda dau ddyn ifanc a gafodd eu gweld tua 200 llath i fyny’r afon o Westy Chainbridge.

Roedd y dynion ifanc hyn ar feiciau mynydd, ac fe allen nhw fod â gwybodaeth bwysig, meddai’r heddlu.

‘Sefydlog’

Mae’r dyn a gafodd ei anafu mewn cyflwr sefydlog ac yn parhau i helpu’r Heddlu gyda’u hymchwiliad.

Maen nhw wedi sefydlu ystafell ymchwiliad yn Llanelwy ac mae nifer o swyddogion heddlu’n gweithio ar yr achos. Maen nhw’n pwysleisio bod achosion o’r fath yn brin yn yr ardal.

Fe ddylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu gyda 101, 0845 6071001 neu gyda Thaclo’r Tacle’ ar 0800 555111. Hefyd, mae’n bosibl e-bostio heddlu’r gogledd ar northwalespolice@north-wales.police.uk