Mae llywodraeth glymblaid David Cameron wedi lansio ei raglen deddfwriaethol cyntaf – gyda mesurau newydd ar gyfer ysgolion, diwygio’r sustem etholiadol a chael gwared ar gardiau ID.

Roedd araith y Frenhines yn cynnwys 22 Mesur, a dywedodd mai’r “flaenoriaeth cyntaf oedd lleihau’r diffyg ariannol ac adfer y twf economaidd”.

Roedd y rhan fwyaf o gynnwys araith y frenhines wedi ei ddatgelu ym mhapurau’r Sul ond roedd yna ambell i syrpreis, gan gynnwys mesur i sicrhau heddlu i warchod ffiniau Prydain.

Bydd gwerthu alcohol o dan ei bris cynhyrchu yn cael ei wahardd dan Fesur Cyfrifoldeb Cymdeithasol, a bydd cynghorau a’r heddlu yn cael mwy o bwerau i gau tafarndai a chlybiau sy’n creu problemau cymdeithasol.

Bydd diwygiad i’r sustem etholiadol yn arwain at senedd pum mlynedd o hyd a refferendwm ar y sustem bleidleisio gynrychiolaeth gyfrannol yn Nhŷ’r Cyffredin.

Bydd cardiau ID yn cael eu dileu fel rhan o Fesur Rhyddid fydd yn “tynnu dylanwad y wladwriaeth yn ôl”. Fe fydd o hefyd yn lleihau cwmpas y bas data DNA gan roi mwy o hawliau i bobol sydd ddim yn euog o unrhyw drosedd.

Rhai o’r cyhoeddiadau eraill

• Gweithredu argymelliadau Comisiwn Calman ynglŷn â datganoli yn yr Alban.

• Ail lunio meintiau etholaethau er mwyn lleihau nifer y ASau a gwneud pob sedd tua’r un maint.

• Preifateiddio’r Post Brenhinol yn rhannol.

• Refferendwm ar unrhyw gytundeb gan yr Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol.

• Adolygiad i gynyddu’r oed pensiwn gwladol i 66 yn gynt.

• Diddymu cynlluniau’r llywodraeth Lafur i gynyddu yswiriant gwladol.

• Cynnal arf ataliadol niwclear Trident.