Mae dros 1,000 o filwyr a heddlu wedi ymosod ar rwydwaith o slymiau yn Jamaica ble mae troseddwyr gyda drylliau yn amddiffyn un o smyglwyr cyffuriau mwya’r byd.
Brwydrodd y milwyr drwy waliau a ffensys weiren bigog yn ardal Tivoli Gardens, West Kingston, er mwyn ceisio dal Christopher ‘Dudus’ Coke.
Mae’r Unol Daleithiau wedi galw am ei alltudio o Jamaica er mwyn ei roi o flaen llys yn Efrog Newydd ar gyhuddiadau o smyglo cyffuriau ac arfau.
Roedd sŵn gynnau yn tanio i’w glywed yn y tywyllwch neithiwr ar ôl i’r awdurdodau dorri trydan i’r slymiau. Hedfanodd hofrenyddion y fyddin uwchlaw y slymiau gyda’u goleuadau i ffwrdd.
Mae Adran Gyfiawnder yr Unol Daleithiau yn ei ystyried yn un o’r smyglwyr cyffuriau mwyaf peryglus y byd.
Dechreuodd cefnogwyr Christopher Coke gasglu yn y cadarnle’r wythnos diwethaf ar ôl i Brif Weinidog Jamaica, Bruce Golding gytuno i’w alltudio.
Cafodd dau heddwas eu lladd dydd Sul a chwech arall eu hanafu, ac fe gafodd un milwr ei ladd dydd Llun yn ystod y brwydro yn Tivoli Gardens.