Mae’r Rhyl wedi dweud nad ydi eu problemau ariannol mor ddifrifol â’r hyn sy’n cael ei awgrymu, ar ôl iddyn nhw golli’r cyfle i fod yn Uwch Gynghrair Cymru tymor nesaf.

Fe gollodd tîm Belle Vue eu lle ym mhrif adran Cymru ar ôl methu yn eu hapêl i gael y drwydded angenrheidiol i chwarae yn yr Uwch Gynghrair y tymor nesaf.

Dyw’r clwb heb gadarnhau a fydd Greg Strong yn parhau i fod yn chwaraewr-rheolwr y tymor nesaf na chwaith pa chwaraewyr fydd yn aros gyda’r clwb.

“Mae pawb yn gwybod ein bod ni wedi cael problemau ariannol yn ystod y tymor hwn,” meddai Rheolwr Gyfarwyddwr Y Rhyl, Dave Milner.

“Mae pawb sy’n rhan o’r clwb a’r gymuned wedi bod yn cyd-weithio i’n helpu ni drwy’r cyfnod anodd yma.

“Ond dyw ein hachos ddim yn cael ei helpu gan adroddiadau anghywir,” ychwanegodd.

Yn ôl y clwb, dyw’r Rhyl ddim £500k mewn dyled, er gwaethaf adroddiadau yn y wasg sydd wedi awgrymu hynny.

Mae’r clwb yn gwadu iddyn nhw ddewis disgyn allan o’r Uwch Gynghrair gan ddweud eu bod nhw wedi synnu nad oedden nhw wedi llwyddo i gael y drwydded angenrheidiol.

Dywedodd Y Rhyl eu bod nhw’n bwriadu rhoi gwybod i gefnogwyr ynglŷn â phenodiad rheolwr a Rheolwr Gyfarwyddwr ar gyfer y tymor nesaf yn hwyrach yn yr wythnos.

Ar ôl gwneud hynny fe fydd y clwb yn cyhoeddi pwy fydd chwaraewyr Y Rhyl am y tymor nesaf, yn ogystal â phwy fydd ar fwrdd y cyfarwyddwyr.

Mae’r Rhyl yn gobeithio trefnu cyfarfod ar gyfer cefnogwyr, ag aelodau o’r clwb cyn diwedd mis Mehefin.