Mae rhaglenni S4C wedi ennill 14 o wobrau yn seremoni wobrwyo BAFTA Cymru.
Mae Cyfarwyddwr comisiynu’r sianel wedi dweud fod nifer y gwobrau yn “deyrnged ddisglair i ymroddiad a gallu” y sector cynhyrchu.
Ymhlith y gwobrau mae’r actor gorau, yr actores orau, y cyfarwyddwr gorau a’r awdur gorau ar gyfer y sgrin.
Blas ar y gwobrau…
Rhaglen ddogfen Dwy Wraig Lloyd George, a gafodd ei gynhyrchu gan Tinopolis a’i gyflwyno gan Ffion Hague enillodd un o wobrau arbennig y noson, sef Gwobr Gwyn Alf Williams.
Fe enillodd y ffilm Ryan a Ronnie, gynhyrchwyd gan Boomerang Plus, bedair gwobr gan gynnwys yr actor gorau am bortread Aled Pugh o’r diddanwr Ryan Davies, yr awdur gorau ar gyfer y sgrin i Meic Povey, a’r cyfarwyddwr drama gorau i Rhys Powys.
Eiry Thomas oedd yn chwarae rhan Jane Jones yn y ddrama ‘Cwcw’ a enillodd y wobr am yr actores orau. Fe gafodd y ffilm gan Fondue Films y wobr am y trac sain gerddorol wreiddiol orau.
Enillodd y ddrama ddogfen Carwyn, am fywyd Carwyn James a’r ffilm Ar y Tracs, a sgriptiwyd gan Ruth Jones o Gavin and Stacey a Catrin Dafydd, ddwy wobr yr un.
‘Falch iawn’
“Rydw i’n falch iawn fod cynifer o raglenni S4C wedi ennill yng Ngwobrwyon BAFTA Cymru eto eleni,” meddai Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C.
“Mae’n deyrnged ddisglair i ymroddiad a gallu ein sector cynhyrchu bod cymaint o’n rhaglenni wedi llwyddo ar y noson. Hoffwn eu llongyfarch i gyd am eu llwyddiant.”