Mae nifer y recriwtiaid tramor ym myddin Prydain wedi cynyddu o 30 i dros 1,400 mewn saith mlynedd.
Yn ôl ffigurau gan y Weinyddiaeth Amddiffyn fe ymunodd 1,420 o bobol tramor gyda’r fyddin yn 2008/9 o’i gymharu â 30 yn 2001/2.
Fe gynyddodd recriwtio o 60 i 100 yn 2005/6 gan neidio i 800 y flwyddyn ganlynol a 1,160 yn 2007/8.
Roedd ‘na 950 o bobol tramor wedi ymuno gyda byddin Prydain llynedd.
Mae’n rhaid i unrhyw un o’r tu allan i Brydain, sy’n awyddus i ymuno gyda’r fyddin, fod naill ai o genedligrwydd deuol Prydeinig, yn ddinesydd o Weriniaeth Iwerddon neu yn hanu o un o wledydd y Gymanwlad.
‘Ail-asesu’
Fe ddywedodd AC Plaid Cymru, Leanne Wood, a ddaeth o hyd i’r ffigurau trwy gais rhyddid gwybodaeth, bod hyn yn creu darlun o fyddin wedi cael ei ymestyn gormod gan y rhyfeloedd yn Irac ac Afghanistan.
“Roedd Plaid Cymru wedi gwrthwynebu’r rhyfeloedd yn Irac ac Afghanistan ac ryn ni’n parhau i gredu dylai’r milwyr ddod adref,” meddai Leanne Wood.
“Mae’r arolwg i’r strategaeth amddiffyn yn gyfle i ail-asesu rôl y Deyrnas Unedig ym materion y byd,” ychwanegodd yr AC.
Ymateb y Weinyddiaeth Amddiffyn
Fe ddywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn bod byddin Prydain yn awyddus i recriwtio’r bobl orau i’r fyddin.
“Ry’ ni’n falch i recriwtio pobl o wledydd sydd â chysylltiadau hanesyddol a gwleidyddol agos â Phrydain,” meddai’r llefarydd.