Mae cyn fewnwr y Gweilch, Justin Marshall, wedi dweud y bydd Cymru yn llwyddo yn erbyn naill ai Seland Newydd neu De Affrica fis nesaf.
Bydd Cymru’n wynebu’r Springboks yn Stadiwm y Mileniwm ar 5 Mehefin cyn wynebu’r Crysau Duon mewn dwy gêm brawf ar 19 a 26 Mehefin.
Fe dreuliodd cyn chwaraewr rhyngwladol Seland Newydd ddwy flynedd gyda’r Gweilch ac mae’n ymwybodol o’r dalent sydd yng ngharfan Warren Gatland.
‘Curo unrhyw dîm’
Mae Marshall yn credu bydd y ddau dîm o hemisffer y de yn poeni am Gymru gan gredu bod gan y cefnogwyr le i fod yn ffyddiog.
“Mae Cymru’n gallu curo unrhyw un o dimau hemisffer y de ac unrhyw dîm o’r gogledd ar eu diwrnod,” meddai Marshall.
“Mae ganddynt gydbwysedd da i’r tîm ar hyn o bryd, ac maen nhw’n edrych yn gryfach nawr bod cwpwl o chwaraewyr oedd wedi’u hanafu yn ystod y Chwe Gwlad wedi dychwelyd.”
‘Hyder’
“Mae’n rhaid iddyn nhw gredu yn hynny wrth fynd i mewn i’r gêm gyntaf a chodi hyder cyn teithio i Seland Newydd,” nododd Marshall.
“Mae gan Dde Affrica dîm gwych, nhw yw pencampwyr y byd, ond yng Nghaerdydd, fe allai Cymru eu maeddu.
“Ni fydd y Crysau Duon yn rhy hyderus chwaith – fe fydden nhw ychydig yn ansicr. Mae angen iddyn nhw wneud rhai newidiadau wrth adeiladu tuag at Gwpan y Byd ac ni fyddan nhw wedi chwarae rhyw lawer gyda’i gilydd.”
‘Paratoadau delfrydol’
Beth bynnag fydd canlyniadau’r gemau, mae Justin Marshall yn credu bod wynebu gwrthwynebwyr o safon De Affrica a Seland Newydd yn ffordd ddelfrydol i baratoi ar gyfer Cwpan y Byd.
“Maen nhw’n teithio i lefydd y maen nhw’n debygol o ddychwelyd iddyn nhw – mae’r ail brawf yn Hamilton ac fe fydd y stadiwm yna’n cynnal gemau yng Nghwpan y Byd,” meddai Marshall.
“Mae angen iddyn nhw gyfarwyddo gyda phopeth o’r cae i’r dorf, y bobol a’r awyrgylch.
“Os na allen nhw fynd allan a pherfformio fe fyddwn nhw’n gwybod bod ganddyn nhw lawer o waith i’w wneud cyn y flwyddyn nesaf,” ychwanegodd Justin Marshall.