Mae Morgannwg wedi dweud bod un o’u chwaraewyr, Michael Powell, bellach ar gael i ymuno gyda chlybiau eraill ar fenthyg.
Mae’r batiwr wedi chwarae chwe gêm i Forgannwg yn Adran Dau Pencampwriaeth y Siroedd y tymor hwn.
Ond doedd Powell ddim yn y tîm un dydd ar ddechrau’r tymor a dim ond 250 o rediadau mae o wedi sgorio mewn deg batiad y tymor hwn.
Mae Michael Powell wedi chwarae i Forgannwg ers 1997, gan sgorio 17, 270 o rediadau, sy’n cynnwys 26 cant i’r Dreigiau.
Mae cyfarwyddwr criced Morgannwg, Matthew Maynard wedi dweud ei fod yn awyddus i sicrhau bod chwaraewyr hŷn y garfan yn chwarae criced tîm cyntaf os yn bosib.
Ond fe ddaw’r newyddion cwpl o wythnosau ers i Forgannwg wrthod cais gan Swydd Caerloyw i arwyddo’r troellwr, Robert Croft ar fenthyg.
Swydd Caerlŷr
Mae bowlio Morgannwg wedi cyfyngu Swydd Caerlŷr i 263-8 ar ddiwrnod cyntaf gêm Pencampwriaeth y Siroedd yn Grace Road.
Fe allai fod wedi bod yn llawer gwell i Forgannwg oni bai am safiad Paul Nixon (90) ac Andrew McDonald (86).
Fe helpodd bowliwr Morgannwg, James Harris achos Morgannwg gyda thair wiced am 62 o rediadau.