Bydd Rhys Davies yn chwarae ym Mhencampwriaeth Agored yr Unol Daleithiau fis nesaf ar ôl dod i’r brig mewn cystadleuaeth ragbrofol yn Surrey.

Fe ddaw hyn ddiwrnod ar ôl iddo gadarnhau ei fod yn cael mynd i Bencampwriaeth Agored yn St Andrews, fydd yn cael ei chynnal ym mis Gorffennaf.

Llwyddodd y golffiwr o Ben-y-bont i sicrhau un o’r 11 lle oedd ar gael yn y gystadleuaeth ragbrofol 36 twll yng Nghlwb Golff Walton Heath.

Sgoriodd Rhys Davies rownd o 66 ar gwrs newydd haws Walton Heath cyn sicrhau rownd o 70 ar yr hen gwrs.

Fe fydd Rhys Davies yn cystadlu ym Mhencampwriaeth Agored Cymru sy’n cael ei gynnal yn y Celtic Manor rhwng 3 a 6 Mehefin.

Bydd y Cymro’n teithio i California i herio goreuon y byd ym Mhencampwriaeth Agored yr Unol Daleithiau yn Pebble Peach, sy’n dechrau ar 17 Mehefin.

Yna bydd Rhys Davies yn dychwelyd i Brydain er mwyn chwarae yn y Bencampwriaeth Agored yn St Andrews fydd yn digwydd rhwng 15 a 18 Gorffennaf.