Mae Llys Troseddol Gwlad Thai wedi cyhoeddi gwarant ar gyfer arestio cyn Brif Weinidog y wlad, Thaksin Shinawatra, ar gyhuddiadau yn ymwneud â therfysgaeth.
Mae llywodraeth y wlad yn beio Thaksin Shinawatra, gafodd ei ddisodli mewn coup milwrol yn 2006, am hybu’r brotest gan y Crysau Cochion yng nghanol prifddinas y wlad, Bangkok.
Daeth y brotest i ben yr wythnos diwethaf pan ymosododd milwyr ar ganol y ddinas gan yrru’r protestwyr olaf oddi yno. Cafodd o leiaf 88 o bobol, protestwyr yn bennaf, eu lladd.
Dywedodd cyfreithwyr Thaksin Shinawatra bod llywodraeth Gwlad Thai wedi “gwyrdroi cyfiawnder gyda chyhuddiad sy’n groes i resymeg, cyfraith ac unrhyw obaith am gymod.”
Mae Thaksin Shinawatra, sydd bellach yn byw yn Dubai, yn cael ei ystyried fel arwr i nifer o’r Crysau Cochion.
Dywedodd llefarydd ar ran byddin Gwlad Thai y byddai pobol yn cael eu gwahardd rhag gadael eu tai am gyfnodau yn y brifddinas am wythnos arall er mwyn atal mwy o brotestio.
“Y nod yw gwahanu’r terfysgwyr oddi wrth y cyhoedd,” meddai Sansern Kaewkamnerd ar ran y fyddin .