Mae chwaraewr Caerdydd, Stephen McPhail wedi dweud ei fod yn poeni y bydd Dave Jones yn gadael y clwb dros yr haf.
Daw hyn ar ôl i’r Adar Glas fethu a gwireddu eu breuddwyd o chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr y tymor nesaf.
Mae rheolwr y clwb wedi dweud ei fod yn awyddus i aros gyda’r clwb y tymor nesaf, ond mae rhai yn amau a oes ganddo’r awydd i symud y tîm ymlaen unwaith eto ar gyfer tymor arall yn y Bencampwriaeth.
Mae yna hefyd adroddiadau bod buddsoddwyr newydd y clwb am leihau cyllid y clwb ar gyfer y tymor nesaf. Bydd hyn yn cynnwys tocio cyflogau’r chwaraewyr.
Mae Dave Jones wedi cael ei gysylltu gyda chlybiau’r Uwch Gynghrair yn y gorffennol, a West Ham yw’r diweddaraf i ddangos diddordeb.
Mae Stephen McPhail yn credu bod y rheolwr wedi bod yn rhan allweddol o ddatblygiad y clwb dros y tymhorau diwethaf.
“Mae’r rheolwr wedi bod yn wych ers dod i’r clwb. Dydi o ddim wedi cael unrhyw arian ac mae wedi dangos ei fod yn rheolwr gwych,” meddai McPhail wrth bapur newydd y Western Mail.
“Ond dw i ddim yn gwybod sut y bydd o’n teimlo. Rwy’n siŵr bydd digon o glybiau eraill yn awyddus i’w gael yn rheolwr.
“Rwy’n gobeithio y bydd e’ yma’r tymor nesaf oherwydd mae’n rhan enfawr o’r clwb.”
Ond mae Stephen McPhail yn credu bod angen cefnogaeth ariannol ar y rheolwr y tymor nesaf wrth i Gaerdydd geisio mynd i’r Uwch Gynghrair unwaith eto.