Mae athro sydd wedi osgoi carchar ar ôl taro disgybl 14 oed dros ei ben gyda darn o offer codi pwysau wedi rhybuddio bod nifer o athrawon dan bwysau ac wedi cyrraedd pen eu tennyn.

Ymosododd Peter Harvey, 50, ar ddisgybl yn Ysgol Gatholig All Saints’ yn Mansfield, Swydd Nottingham, ar ôl i ddisgyblion wneud hwyl am ei ben droeon mewn dosbarth gwyddoniaeth.

Fis diwethaf penderfynodd rheithgor yn Llys y Goron Nottingham nad oedd yn euog o geisio llofruddio na chwaith o geisio achosi anaf difrifol.

Ddoe dedfrydwyd ef i ddwy flynedd o waith yn y gymuned am achosi anaf corfforol difrifol heb fwriadu gwneud hynny.

“Rydw i wrth fy modd gyda phlant a fi yw’r person olaf fyddai eisiau brifo plentyn. Wnes i ddim penderfynu anafu’r plentyn, ond fe ddigwyddodd,” meddai Peter Harvey wrth bapur newydd y Dialy Mirror.

“Os gallai hynny ddigwydd i mi fe allai ddigwydd i unrhyw un. Mae yna nifer o athrawon sy’n cyrraedd pen eu tennyn. Rydw i’n nabod athrawon sydd dan gymaint o bwysau dydyn nhw ddim yn gallu dal paned o goffi na chroesi’r hewl.

“Fe allai ddigwydd eto ac fe fydd yn siŵr o wneud os na fydd rhywbeth yn newid.”

Ymddiheurodd i’r plentyn am dorri asgwrn ei benglog ac achosi iddo golli rhywfaint o’i glyw ar ôl yr ymosodiad ym mis Gorffennaf diwethaf.

Derbyniodd y rheithgor ei fod wedi colli ei bwyll ar ôl i’r disgybl sydd bellach yn 15 oed ddweud wrtho: “F*** off”.

Daeth i’r amlwg yn ystod yr achos llys bod y dosbarth wedi bod yn mynd ati’n fwriadol i’w gynhyrfu er mwyn cofnodi ei ymateb ar gamera fideo a dosbarthu’r tâp o gwmpas yr ysgol.