Eluned Owena Evans sy’n edrych ar ddiwrnod pwysig yn hanes yr Ariannin…
Mae wedi bod yn benwythnos brysur iawn yma yn yr Ariannin wrth i ni baratoi ar gyfer dathlu 200 mlynedd ers y Revolución de Mayo, heddiw. Yn wir, dw i’n ffodus iawn mod i yn yr Ariannin eleni er mwyn cael bod yn rhan o’r dathlu. Mae baner yr Ariannin i’w gweld ym mhob twll a chornel – ym mhob ffenest siop ac ar sawl coeden – a dw innau newydd fod yn prynu baner er mwyn ei rhoi wrth ochr y ddraig goch yn ffenestr y fflat! Bu cyfres o ddigwyddiadau chwyldroadol ym Muenos Aires rhwng Mai 18fed a Mai 25ain 1810 (Semana de Mayo) ac fe gewch chi fwy o’r cefndir yn ogystal ag hanes y dathlu yma’n Esquel/Trevelin y tro nesaf.
Fel rhan o’m gwaith Menter Patagonia, fe fues i’n ymweld â rhai o drigolion Trevelin yr wythnos hon. Roeddwn i wrth fy modd yn edrych ar hen luniau ac yn eu clywed yn adrodd straeon am eu plentyndod. Roedd y panedau o dê a’r cacennau yn dda iawn hefyd! Diolch yn fawr iawn i Mair Ela Rowlands, Arwel Morgan (a Bruno’r ci!) a Vincent a Clara Evans am y croeso cynnes.
Yn ystod yr wythnos hefyd, fe wnes i gyfarfod â Maredudd a Catrin sy’n treulio’u mis mêl yn Ne America. Braf oedd sgwrsio gyda nhw, yn enwedig gan eu bod yn dod o’r un ardal â fi! Fe fyddan nhw’n dychwelyd adre cyn hir. Rhywun arall sydd yn dychwelyd i Gymru yn ystod y diwrnodau nesaf yw Lois Eluned Fychan Jones. Yr oedd Lois yn athrawes ac yn Swyddog Menter Patagonia yma’n yr Andes y llynedd. Yn ystod y misoedd diwethaf y mae hi wedi bod yn teithio oamgylch De America gan ymweld â gwledydd megis Brasil, Chile, a Bolifia. Fydd hi’n rhyfedd iawn yma hebddi, ond y mae hi wedi addo dod nôl yn fuan i’n gweld ni!
Bydd dwy o Esquel yn mynd i Gymru cyn bo hir hefyd. Llongyfarchiadau mawr iawn i Liliana Carballo a Sandra Soto sydd wedi ennill ysgoloriaeth i astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd ym mis Mehefin. Mae’r ddwy yn hynod gyffrous a dw i’n siŵr y cewn nhw amser wrth eu boddau. Dyma ychydig o hanes Liliana:
“Liliana dw i. Dw i’n enedigol o Fuenos Aires: ces i fy ngeni a’m magu ym Muenos Aires. Dw i’n briod ac mae dau o blant gyda fi. Dw i’n gweithio fel cyfieithwraig i Editorial Stadium. Dw i’n hoffi cerdded, darllen a gwrando ar gerddoriaeth, ond yn fwy na dim, dw i’n hoffi ieithoedd. Dw i’n siarad Ffrangeg, Rwsieg, Saesneg ac wrth gwrs Sbaeneg. Pan fo iaith yn cael ei dysgu, mae’r bobl sy’n siarad yr iaith hon yn cael eu dysgu hefyd. Symudais i i Esquel ddwy flynedd a hanner yn ôl. Dysgais i lawer am Gymru ac felly roedd dysgu Cymraeg yn rhywbeth hollol naturiol i mi.”