Mae garddwr enwoca’ Cymru wedi ennill Medal Aur arall ac un o’r prif wobrau yng Ngŵyl Flodau Chelsea.
Y bore yma, fe gyhoeddwyd mai Medwyn Williams o Sir Fôn sydd wedi ennill Gwobr y Llywydd yn y sioe flynyddol – pinacl rhyngwladol y byd garddio.
Roedd ganddo 40 o wahanol fathau o lysiau yn ei arddangosfa, gyda 150 o ddysglau yn dangos yr holl gynnyrch.
Doedd Medwyn Williams ddim wedi cystadlu yn y sioe ers pum mlynedd ond cyn hynny roedd wedi ennill Medal Aur deg gwaith o’r bron.
Fe ddywedodd wrth Radio Cymru y bore yma bod yr arddangosfa’n edrych yn dda, gyda’r helogan – neu seleri – yn arbennig. Roedden nhw’n “disgleirio fel golau tros y lle”.
Fe dalodd deyrnged hefyd i’w wraig, Gwenda, am drefnu’r arddangosfa ac i’w weithwyr am ei rhoi yn ei lle.
Llun: Medwyn Williams (o wefan y Sioe)