Mae Llafur a Phlaid Cymru wedi ymosod yn ffyrnig ar gynnwys Araith y Frenhines, gan gyhuddo’r Llywodraeth newydd o anwybyddu Cymru.
Er bod disgwyl cyhoeddiad heddiw y bydd adroddiad Comisiwn Calman ynglŷn â’r drefn drethu ac ariannu yn yr Alban yn cael ei weithredu, fydd yna ddim addewid tebyg i Gymru.
Roedd Comisiwn Holtham yma wedi galw am newid Fformiwla Barnett sy’n trosglwyddo arian o Lundain i Gymru – fe allai hynny olygu cynnydd o gymaint â £300 miliwn y flwyddyn.
“Maen nhw wedi anwybyddu Cymru’n llwyr,” meddai cyn Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, sydd hefyd yn cyhuddo’r Llywodraeth o dorri’n annheg ar wario cyhoeddus yma.
Plaid Cymru’n beirniadu
Roedd Plaid Cymru yr un mor feirniadol, gan gyhuddo arweinwyr Cymreig y Torïaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol o fethu ag amddiffyn Cymru.
Cyn yr etholiad cyffredinol, roedd y ddwy blaid wedi dweud bod angen newid y drefn ariannu a chael fformiwla wedi’i seilio ar angen.
Mae pleidiau’r Cynulliad i gyd hefyd wedi cefnogi galwadau Comisiwn Holtham – yn ôl hwnnw, fe fyddai fformiwla ar sail angen yn rhoi mwy o arian i Gymru.
Fe ymosododd y Dirprwy Weinidog Tai, Jocelyn Davies, yn benodol ar arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Cynulliad.
“Roedd Kirsty Williams wedi galw ar weinidogion y Deyrnas Unedig i weithredu ar unwaith ar gasgliadau Holtham,” meddai. “Ble’r oedd hi pan gymerwyd y penderfyniad i siomi cymunedau Cymru ac anwybyddu’r argymhellion?”
Llun: Kirsty Williams dan y lach