Mae angen gweithredu i wneud yn siŵr na fydd cystadleuaeth Cwpan Ryder yn arwain at fasnachu merched, meddai grŵp o Aelodau Cynulliad.
Yn ôl y Cadeirydd, Joyce Watson, mae yna dystiolaeth bod digwyddiadau chwaraeon mawr rhyngwladol yn arwain at gynnydd mewn puteindra, gyda merched yn cael eu gorfodi yno gan gangiau.
“Rhaid i ni wneud rhywbeth a rhaid i ni wneud yn siŵr nad yw hyn yn digwydd pan fydd y Cwpan Ryder yn dod i Gasnewydd eleni,” meddai wrth Radio Wales y bore yma.
Mae’n fath o gaethwasiaeth, meddai, ac mae adroddiad y Grŵp Trawsbleidiol ar Fasnachu Menywod a Phlant yn galw am benodi swyddog uchel i geisio atal masnach o’r fath.
Tystiolaeth o arolwg
Roedd arolwg o holl awdurdodau lleol Cymru’n dangos bod masnachu merched a phlant er mwyn rhyw yn digwydd ar draws y wlad, gan gynnwys yr ardaloedd gwledig.
Fe gafodd y Grŵp atebion gan 20 o’r 22 cyngor ac roedd tystiolaeth ar y pryd fod 15 o blant wedi cael eu masnachu.
Er hynny, meddai Joyce Watson, roedd ymateb y cynghorau’n amrywio’n fawr – doedd gan rai ddim strategaethau i ddelio â’r broblem.
Llun: Joyce Watson, C tros Ganolbarth a Gorllewin Cymru