Fe ddylai Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig weithredu yn erbyn Gogledd Corea, meddai Ysgrifennydd Cyffredinol y mudiad.
Roedd Ban Ki-moon yn mynnu bod rhaid cosbi’r wlad gomiwnyddol ar ôl iddi suddo un o longau rhyfel De Corea mewn ymosodiad yn y Môr Melyn.
Mae’r Unol Daleithiau hefyd yn cynyddu’r pwysau ar y Gogledd trwy ymuno mewn ymarferion llynges gyda’r De – y nod, meddai’r Arlywydd Barack Obama, yw rhybuddio’r Gogledd rhag gweithredu pellach.
Doedd dim dadl ai’r Gogledd oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad, meddai’r Ban Ki-moon – roedd ymchwiliad rhyngwladol wedi dod o hyd i dystiolaeth gadarn.
Roedd yr adroddiad yn dweud mai un o dorpidos y Gogledd oedd wedi taro llong y Cheonan gan ladd 46 o forwyr.
Er ei fod yn gyn Weinidog Tramor yn y De, roedd yr Ysgrifennydd Cyffredinol yn mynnu mai ystyried y sefyllfa ryngwladol yr oedd a’i fod yn ceisio bod yn deg a diduedd.
‘Cam sylweddol’
“Mae’n rhaid cymryd cam sylweddol (yn erbyn y Gogledd),” meddai. “Mae’r dystiolaeth yn argyhoeddi’n llwyr; does dim dadl.”
Fe fydd penderfyniad y Cyngor Diogelwch yn dibynnu i raddau helaeth ar China, un o gyfeillion traddodiadol Gogledd Corea.
Mae ganddi hi bleidlais fito yn y Cyngor ac mae’r Unol Daleithiau eisoes wedi bod yn ceisio’i pherswadio hi i gytuno i weithredu.
Yn ôl Ban Ki-moon, roedd yna drafodaethau eisoes wedi bod ymhlith 15 aelod y Cyngor, ‘pwyllgor gwaith’ y Cenhedloedd Unedig.
Rhyfel – y cefndir
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn y moroedd rhwng y ddwy wlad – mae’n un o gyfres o ddigwyddiadau cyson yno, ond dyma’r mwya’ difrifol.
Yn swyddogol, mae Gogledd a De Corea yn dal i fod mewn rhyfel yn erbyn ei gilydd – cadoediad, nid heddwch, a ddaeth â’r ymladd i ben rhyngddyn nhw yn nechrau’r 1950au.
Mae Gogledd Corea wedi gwrthod y cyhuddiadau mai hi oedd yn gyfrifol am suddo’r Cheonan – roedd adroddiad yr ymchwiliad rhyngwladol “yn gyfystyr â chyhoeddi rhyfel”, meddai.