Mae pedwar o bobol yn dal i fod yn ddifrifol wael ar ôl y ddamwain bws ysgol a laddodd ddau o ddisgyblion ac un oedolyn yn Cumbria.

Yn ôl llygad-dystion fe ddigwyddodd y ddamwain wrth i’r bws geisio osgoi car oedd wedi dod allan o’i flaen. Fe drawodd yn erbyn car arall – Honda Civic – a throi ar ei ochr.

Bachgen a merch o Ysgol Keswick yw’r ddau ddisgybl sydd wedi eu lladd – roedd y bws ar ei ffordd o’r ysgol i ardal Cockermouth lle cafwyd y llifogydd mawr y llynedd.

Fe fu’n rhaid i hofrenyddion gario’r bobol sydd wedi eu hanafu’n ddrwg i adrannau brys yn ysbytai Middlesborough, Newcastle a Preston.

Yn ôl swyddog heddlu, roedd hi’n amlwg ar unwaith bod y ddamwain yn un ddifrifol, gyda phobol wedi eu hanafu’n ddrwg ac eraill yn diodde’ o trawma.

Roedd yna 35 o bobol wedi cael anafiadau llai yn y ddamwain a ddigwyddodd brynhawn ddoe.

Llun: Craen yn ceisio codi’r bws wedi’r ddamwain (Gwifren PA)