Alun Ffred Jones
Mae’r Gweinidog Treftadaeth yng Nghaerdydd wedi ymosod ar y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Ceidwadwyr am fethu ag amddiffyn S4C.
Fe gadarnhaodd y sianel y bydd hi’n colli £2 filiwn o’i grant gan yr Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon yn Whitehall yn rhan o doriadau gwario cyhoeddus y llywodraeth newydd.
Mewn datganiad, fe ddywedodd y byddai’n ceisio gweithredu heb effeithio ar raglenni a gwasanaethau uniongyrchol. Ond mae’n rhybuddio y bydd hynny’n sicr o ddigwydd os bydd yna ragor o doriadau.
Torri 3%
Mae’r toriadau’n gyfystyr â 3% o’r holl grant sy’n dod i’r sianel – mae pob corff sy’n dod dan adain yr Adran Ddiwylliant yn Whitehall – y DCMS – yn wynebu toriad o’r fath.
Ond roedd y Gweinidog Treftadaeth yn dadlau bod S4C yn achos arbennig.
“Mae yna gonsensws ar draws y pleidiau yng Nghymru am yr angen i amddiffyn gwario S4C,” meddai Alun Ffred Jones. “Ond roedden ni wastad yn gwybod na fyddai’r Torïaid na’r Democratiaid Rhyddfrydol yn rhannu blaenoriaethau pobol Cymru.
Dyma ddatganiad S4C
“Gall S4C gadarnhau gostyngiad yn eu cyllideb wrth Yr Adran Dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon am y flwyddyn hon o £2filiwn. Bydd S4C yn ymdrechu i sicrhau na fydd y toriad yn effeithio ar wasanaethau i’r gwylwyr.
“Er hynny, byddai’n rhaid ystyried unrhyw doriadau pellach yng nghyllideb S4C yn nhermau effeithiau niweidiol ar wasanaethau ac ar gyfraniad economaidd S4C.”