Mae prif hyfforddwr y Scarlets, Nigel Davies wedi canmol y Gleision yn dilyn eu buddugoliaeth yn erbyn Toulon yn rownd derfynol Cwpan Amlin.
Mae llwyddiant tim Dai Young yn golygu bod y Scarlets yn ennill eu lle yn y Cwpan Heineken y tymor nesaf.
“Mae’n rhaid canmol y Gleision am sicrhau’r fuddugoliaeth mewn perfformiad arbennig yn erbyn Toulon. Roedd yn braf gwylio rhanbarth Cymreig yn ennill gwobr Ewropeaidd,” meddai Davies.
“Rydyn ni’n amlwg yn falch i fod yn ôl yng Nghwpan Heineken y tymor nesa, mae’n newyddion da iawn i’r rhanbarth ac i’n cefnogwyr.
“Fe fyddwn ni’n edrych ymlaen i’r tymor nesa’ gyda gobaith newydd ein bod yn rhan o gystadleuaeth gorau Ewrop ac yn cystadlu yn erbyn timau gorau Ewrop.”
Byth eto…
Er gwaethaf rhyddhad Nigel Davies bod y Scarlets yn chwarae yn y brif gystadleuaeth Ewropeaidd y tymor nesa’, nid yw’n awyddus i fod mewn sefyllfa debyg eto.
“Nid dibynnu ar eraill yw’r ffordd i ni sicrhau ein lle yng Nghwpan Heineken, ac mae’n rhaid i ni wella tymor nesa’ a gwneud yn iawn am ein camgymeriadau’r tymor hwn,” meddai Nigel Davies.