Mae cyfarwyddwr rygbi’r Gleision, Dai Young yn dweud bod yr anaf i faswr Toulon, Jonny Wilkinson yn ail hanner y Cwpan Amlin wedi bod yn allweddol i fuddugoliaeth y rhanbarth Cymreig.
Fe fu’n rhaid i’r ciciwr o Sais adael y cae yn gynnar yn yr ail hanner, ac mae yna bryder ei fod wedi torri rhai o’i asennau.
“Roedd yn allweddol i’r gêm pan aeth Wilkinson bant o’r cae,” meddai Young.
“Roedden ni’n eu rhoi nhw dan bwysau cyn hynny, ond roedd Wilkinson yn gallu rhyddhau’r pwysau hynny.”
“Roedden ni’n chwarae mewn i’w ddwylo fe, a dim ond dal ymlaen oedden ni yn ystod yr hanner cyntaf.”
Ail hanner cryf
“R’yn ni wedi bod yn chwarae’n dda yn yr ail hanner dros y misoedd diwethaf, ac roedd gyda ni’r hyder i ddod ymlaen yn gryf wedi’r egwyl,” meddai Dai Young.
“Roedd yr agwedd yn wych – fe allen ni fod wedi rhoi’r gorau iddi ar adegau. Mae’n arwydd o ba mor bell r’yn ni wedi dod ymlaen fel rhanbarth.”
Canmoliaeth gan y capten
Mae capten y Gleision, Gethin Jenkins, wedi dweud mai’r fuddugoliaeth hon yw cyflawniad mwyaf y grŵp o chwaraewyr.
“Bydden ni wedi hoffi bod yn rownd derfynol y Cwpan Heineken, ond r’yn ni wedi gweithio’n galed i gyrraedd y safle yma ac mae’n neis cael y fuddugoliaeth,” meddai.