Mae gobaith y bydd arwr y Gleision, Xavier Rush, yn aros gyda’r rhanbarth ar ôl eu buddugoliaeth yn erbyn Toulon yn rownd derfynol Cwpan Her Amlin.
Fe ddywedodd hyfforddwr y Gleision, Dai Young, wrth y BBC bod yr wythwr yn ailystyried ei fwriad i symud i Ulster y tymor nesa’ a’i fod bellach yn trafod gyda’r ddau ranbarth.
Rush oedd un o’r chwaraewyr gorau wrth i’r Gleision gipio’r tlws Ewropeaidd – y tro cynta’ i dîm o Gymru wneud hynny. Ond, yn ôl Young, y trobwynt mawr oedd anaf i faswr Toulon, Jonny Wilkinson.
Fe fu’n rhaid i’r Sais adael y cae yn gynnar yn yr ail hanner ac mae yna amheuon ei fod wedi torri asennau.
“Roedd yn allweddol i’r gêm pan aeth Wilkinson bant o’r cae,” meddai Young. “Roedden ni’n eu rhoi nhw dan bwysau ond roedd Wilkinson yn gallu codi’r pwysau hynny.”
Hyderus
Er bod y Gleision wedi “chwarae i mewn i ddwylo” Wilkinson yn yr hanner cynta’, roedd yn hyderus y bydden nhw’n gwneud yn well yn yr ail.
“R’yn ni wedi bod yn chwarae’n dda yn yr ail hanner dros y misoedd diwethaf ac roedd gyda ni’r hyder ar ôl dod ymlaen yn gryf wedi’r egwyl,” meddai.
“Roedd yr agwedd yn wych – fe allen ni fod wedi rhoi’r gorau iddi ar adegau. Mae’n arwydd o ba mor bell yr ’yn ni wedi symud ymlaen fel rhanbarth”
Mae capten y Gleision, Gethin Jenkins wedi dweud mai’r fuddugoliaeth yw llwyddiant mwyaf y grŵp o chwaraewyr.
“Bydden ni wedi hoffi bod yn rownd derfynol y Cwpan Heineken, ond r’yn ni wedi gweithio’n galed i gyrraedd y safle yma ac mae’n neis cael y fuddugoliaeth,” nododd Jenkins.
Scarlets yn diolch
Roedd y Scarlets hefyd yn dathlu – mae buddugoliaeth y Gleision yn rhoi lle ychwanegol i ranbarthau Cymru yng Nghwpan Heineken.
Fe gyfaddefodd un o dîm hyfforddi’r Scarlets eu bod yn lwcus i fynd i mewn i’r gystadleuaeth “trwy’r drws cefn” ond, yn ôl Garan Evans, fe fyddai’n gwneud byd o wahaniaeth i’w tymor.
Llun: Xavier Rush