Mae dyn a menyw wedi cael dihangfa ryfeddol ar ôl i’w car adael y ffordd a disgyn tua 280 troedfedd i lawr ceunant ym Mhowys.

Roedd y car BMW Z3 yn teithio ar y ffordd rhwng Machynlleth a Llanidloes ger Dylife, pan wyrodd ar draws y ffordd gan daro’r ymyl.

Fe ddymchwelodd y car a tharo cerbyd arall a oedd wedi parcio yno, cyn plymio i lawr y ceunant, gan daro sawl coeden ar y ffordd.

Fe laniodd yn y diwedd ar ei olwynion mewn pwll dŵr bychan tu chwe throedfedd o ddyfnder. Yn ôl achubwyr, roedd hi’n rhyfeddol bod y car wedi glanio yno yn hytrach na tharo’r creigiau oedd o’i gwmpas.

Cafodd y ddau yn y car eu cludo i Ysbyty Bangor mewn hofrennydd ar ôl cael mân anafiadau sy’n cynnwys torri pont yr ysgwydd a briwiau.

Llun: Ardal Dylife (badgernetCCA3.0)