Mae’r uwch swyddog sy’n gyfrifol am waith datgymalu bomiau’r fyddin Brydeinig ym Mhacistan wedi ymddiswyddo.
Ac, wrth wneud hynny, mae’r Cyrnol Bob Seddon wedi mynegi amheuon am ddiffyg staff ac am effaith y gwaith ar y milwyr sydd ganddo.
Fe gadarnhaodd y Fyddin ei fod wedi rhoi’r gorau iddi ac y bydd yn gadael y gwasanaeth ym mis Ionawr y flwyddyn nesa’.
Ef oedd prif swyddog technegol y Corfflu Logisteg Brenhinol ym maes arfau, yn arwain y tîm sy’n gyfrifol am ddatgymalu bomiau.
Teledu
Er ei fod yn parhau yn y fyddin ar hyn o bryd ac felly’n methu â chael rhoi sylw pellach, roedd Bob Seddon wedi ymddangos ar raglen deledu Panorama sy’n cael ei darlledu heno.
Ar honno, mae’n dweud bod prinder milwyr i wneud y gwaith datgymalu ac yn rhoi peth o’r bai ar fethiant i recriwtio ar ddechrau’r degawd, pan gafwyd gwaharddiad o ddeunaw mis ar gyflogi o’r newydd.
Roedd hefyd yn pryderu am effaith seicolegol y gwaith, sydd wedi cynyddu’n sylweddol yn Afghanistan wrth i wrthryfelwyr y Taliban ddefnyddio bomiau min-y-ffordd i ymosod ar luoedd Nato.