Croatia 2 Cymru 0
Mae hyfforddwr Cymru, John Toshack wedi nodi ei siom bod cymaint o chwaraewyr Cymru ar goll wrth iddyn nhw golli o 2-0 yn y gêm gyfeillgar yn erbyn Croatia neithiwr.
Doedd 15 o chwaraewyr rhyngwladol ddim ar gael a dim ond 17 oedd yn y garfan ar y daith i i Osijek.
Er gwaetha’ hynny, fe berfformiodd tîm dibrofiad Cymru yn addawol, gyda phump o chwaraewyr yn derbyn eu capiau cynta’.
“Fe fyddai wedi bod yn fwy positif pe bai hanner y chwaraewyr oedd yn absennol wedi chwarae,” meddai Toshack, wrth egluro mai’r bwriad oedd paratoi at gêm gynta’r wlad yn rowndiau rhagbrofol pencampwriaeth Ewrop.
“Cafodd y gêm gyfeillgar ei threfnu er mwyn cael profiad o’r awyrgylch a steil o chwarae Croatia, gan gofio am y gêm yn erbyn Montenegro ym mis Medi,” meddai.
Ymhlith y pump a gafodd eu capiau cyntaf, roedd Andy Dorman o dîm St Mirren yn yr Alban ac mae hynny’n sicrhau mai i Gymru y bydd yn chwarae o hyn ymlaen. Mark Bradley, Neil Taylor, Christian Ribeiro a Hal Robson-Kanu oedd y lleill.
Croatia’n rheoli – hanes y gêm
Croatia oedd yn rheoli’r gêm trwyddi gydag Ivan Rakitic yn sgorio gôl ychydig cyn hanner amser a Drago Gabric yn cael yr ail yn hwyr yn yr ail hanner.
Ond roedd Cymru wedi dal yn gadarn am gyfnodau helaeth o’r gêm gan fygwth sgorio eu hunain ar sawl achlysur.
“Fe gafodd y tîm ambell gyfle ac roedd yna gwpl o wrthymosodiadau da ac roedd yr
amddiffyn yn benderfynol hefyd,” meddai Toshack.
Anodd, meddai Croatia
Roedd hyfforddwr Croatia, Slaven Bilic yn credu bod Cymru yn wrthwynebwyr anodd i’w dîm.
“Dyw Cymru ddim ar y lefel uchaf o ran techneg, ond maen nhw’n chwarae pêl-droed Prydeinig da iawn,” meddai Bilic.
“Roedden nhw’n dda yn mynd ymlaen ac yn chwarae’n dda trwy’r canol.”