Fe fydd rhaid i Ogledd Corea dalu am suddo un o longau rhyfel ei chymydog, meddai Arlywydd De Corea Lee Myung-bak.

Mewn neges deledu i bobol y wlad, fe ddywedodd y byddai’r De’n dod ag achos o flaen Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig er mwyn cosbi’r Gogledd am y digwyddiad pan fu farw 46 o forwyr o’r De.

Mae’r De hefyd yn torri cysylltiadau masnachol gyda’r wlad Gomiwnyddol wrth i’r berthynas rhyngddyn nhw waethygu’n gyflym.

Fe ddyfarnodd ymchwiliad gan arbenigwyr rhyngwladol mai torpido o Ogledd Corea oedd wedi suddo llong y Cheonan yn y dyfroedd rhwng y ddwy wlad.

Yn swyddogol mae’r ddwy’n dal i ryfela – cadoediad, nid heddwch llawn, a gafwyd ar ôl yr ymladd rhwng y ddwy yn nechrau’r 1950au.

Clinton yn ceisio cefnogaeth China

Mae’r Unol Daleithiau’n cefnogi bwriad y De – ddoe, roedd ei hysgrifennydd tramor, Hillary Clinton, yn China ac yn ceisio cael cefnogaeth y wlad honno i weithredu yn erbyn y Gogledd.

China yw un o’r gwledydd allweddol ar Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig, gyda phleidlais fito ar unrhyw benderfyniad.

Yn ôl Lee Myung-bak, roedd y cyfnod o ddiodde’n dawel wedi dod i ben ac fe fyddai’n rhaid i’r Gogledd dalu pris oedd yn cyfateb i’w trosedd.

“R’yn ni wastad wedi goddef cieidd-dra Gogledd Corea, dro ar ôl tro,” meddai. “R’yn ni’n gwneud hynny oherwydd ein bod yn dyheu o ddifri’ am heddwch ar benrhyn Corea.”

Ateb y Gogledd

Mae Llywodraeth Gogledd Corea’n gwadu mai nhw oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad; maen nhw hefyd wedi gwadu honiadau tebyg yn y gorffennol.

Fe ddywedodd un o bapurau swyddogol y wlad bod yr adroddiad gan y grŵp rhyngwladol yn gyfystyr â chyhoeddi rhyfel.

Llun:  Pobol yn gwylio Lee Myung-bak yn rhoi ei neges ar y teledu (AP Photo)