Mae British Airways yn dweud y byddan nhw’n gallu cynnal llawer iawn o’u gwasanaethau heddiw – er bod gweithwyr caban wedi dechrau ar streic bum niwrnod.

Yn ôl y cwmni, fydd dim effaith ar deithiau o feysydd awyr Gatwick a Dinas Llundain ac fe fydd tua 60% o’r teithiau hir o Heathrow yn digwydd.

Ond mae’r anghydfod rhyngddyn nhw ac undeb Unite yn waeth nag erioed ar ôl i drafodaethau ddod i ben mewn anhrefn ddydd Sadwrn.

Roedd y ddwy ochr yn awgrymu fod pethau’n symud cyn i’r cyfarfod gael ei chwalu gan brotestwyr asgell chwith.

Bryd hynny hefyd, fe ddaeth hi’n amlwg bod un o arweinwyr yr undeb yn anfon negeseuon ar y We i ddweud beth oedd yn digwydd yn y trafodaethau.

Chwalu

Roedd Prif Weithredwr BA, Willie Walsh, yn hallt ei feirniadaeth o Derek Simpson, cyd Ysgrifennydd Cyffredinol yr undeb, gan ddweud bod ei ymddygiad yn chwalu ymddiriedaeth.

Mae’r undeb, ar y llaw arall, yn dweud y bydden nhw’n fodlon atal y streic pe bai’r cwmni’n rhoi’r gorau i gosbi streicwyr.

Mae gweithwyr caban a fu ar streiciau cynharach wedi colli eu hawl i gael teithio am brisiau rhatach ar awyrennau’r cwmni.

Llun: Willie Walsh, Prif Weithredwr BA