Mae Duges Caerefrog wedi ymddiheuro’n llaes ar ôl cael ei dal yn trafod cymryd arian am gyflwyno pobol i’w cyn-ŵr, y Tywysog Andrew.
Doedd ei thrafferthion ariannol ddim yn esgus tros “gamgymeriad difrifol”, meddai Sarah Ferguson mewn datganiad.
Roedd newyddiadurwyr y News of the World wedi ei ffilmio hi’n derbyn arian ac yn trafod derbyn mwy am gysylltu ‘dyn busnes’ gyda’r Tywysog, sy’n gynrychiolydd arbennig i wledydd Prydain ym maes busnes a diwydiant.
Roedd y fideo’n dangos y Dduges yn trafod derbyn £500,000 am wneud hynny ac yn cymryd $40,000 o flaendal.
Datganiad y Dduges
“Mae’n wir fod fy sefyllfa ariannol yn achosi pwysau, fodd bynnag dyw hynny ddim yn esgus am y gamgymeriad difrifol yma ac mae’n ddrwg gen i fod hyn wedi digwydd,” meddai yn ei datganiad.
Yn groes i’r hyn a ddywedodd ar y fideo, roedd hi’n gwadu fod y Tywysog yn gwybod am yr hyn ddigwyddodd. Roedd Palas Buckingham eisoes wedi cyhoeddi datganiad yn dweud hynny.
Mae yna straeon ers tro bod y Dduges mewn trafferthion ariannol, gyda chwmni o gyfreithwyr yn bygwth mynd i gyfraith tros ddyledion o tua £100,000.
Neithiwr, roedd hi yn Los Angeles i dderbyn gwobr am ei gwaith elusennol; ddydd Sadwrn, roedd hi yn y Riviera yn Ffrainc ym mharti’r model, Naomi Campbell.
Llun: (gdcgraphics CCA2.0)