Heddiw, fe fydd y Canghellor yn cyhoeddi manylion toriadau gwerth £6 biliwn mewn gwario cyhoeddus.

Fe allai olygu toriadau o rhwng £200 miliwn a £300 miliwn i Gymru, er bod gan y Llywodraeth yng Nghaerdydd y dewis o ohirio’r cwtogi am flwyddyn.

Trwy wledydd Prydain, fe allai hyn olygu diwedd ar recriwtio gweision sifil, toriadau mewn cwangos a chostau teithio a bron £1 biliwn o’r Adran Fusnes.

Ac mae’r Dirprwy Brif Weinidog, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Nick Clegg, yn dweud eu bod nhwthau bellach yn derbyn bod angen toriadau buan. Fe gondemniodd y llywodraeth Lafur am “daflu arian” yn ystod y cyfnod diwetha’.

Cyn yr Etholiad Cyffredinol, roedd y Democratiaid wedi dadlau bod angen dal yn ôl ond maen nhw’n dweud yn awr bod angen gweithredu’n gyflym i dorri diffyg ariannol y Llywodraeth.

“Fe fydd rhaid gwneud penderfyniadau anodd, fe fydd yna benderfyniadau amhoblogaidd; fe fyddan nhw’n ddadleuol ond r’yn ni am orfod dal yn dynn,” meddai.

Y manylion – lle bydd y fwyell yn taro

Mae llawer o wybodaeth wedi cael ei ollwng i’r papurau newydd ymlaen llaw a’r disgwyl yw mai’r Adran Fusnes – o dan y Democrat Rhyddfrydol, Vince Cable – fydd un o’r collwyr mawr.

Yn ôl rhai papurau, fe fydd £900 miliwn o’r toriadau’n digwydd yno, gyda £200 miliwn arall yn dod o brifysgolion.

Ymhlith y meysydd eraill sy’n debyg o deimlo’r fwyell, mae ymgynghorwyr allanol, hysbysebu, cwangos, cynlluniau technoleg wybodaeth a recriwtio.

Mae rhai’n awgrymu hefyd y bydd toriadau o tua £500 biliwn mewn costau i weision sifil – yn gostau teithio, costau tacsis a gwestai.

Llun: Y Canghellor, George Osborne