Fe fydd y Llywodraeth yn rhoi cymorth ariannol am flwyddyn i sicrhau fod nyrs arbennig ar gael ym mhob ysgol uwchradd erbyn mis Mai’r flwyddyn nesa’.

Y bwriad yw rhoi cymorth i ddisgyblion gydag anghenion iechyd a lles emosiynol a chymdeithasol a’u helpu i fyw’n iach.

Ar ôl diwedd y flwyddyn gynta’ fe fydd rhaid i Fyrddau Iechyd dalu eu hunain i gynnal y swyddi.

“Fe fydd rhoi nyrs ysgol ar gyfer pob ysgol uwchradd yng Nghymru’n sicrhau gwasanaeth mwy cyson ar draws Cymru,” meddai Gweinidog Iechyd Llywodraeth y Cynulliad, Edwina Hart.

Fe fydd hi’n mynd i ysgol yn Aberpennar heddiw i lansio’r cynllun newydd.

Y prif waith

Fe fydd gan y nyrsys dair prif dasg:

• Helpu plant sydd ag anghenion iechyd cymhleth i allu mynd i ysgol gyffredin.

• Helpu sicrhau bod disgyblion yn cael eu himiwneiddio rhag afiechydon a bod yn rhan o’r ymdrech i atal clefydau heintus.

• Helpu disgyblion i ddeall am eu hiechyd a chodi ymwybyddiaeth o fyw’n iach.

Yn ôl Llywodraeth y Cynulliad, fe fydd yn cynnwys gwasanaeth y tu allan i oriau ysgol ac, weithiau, yn ystod gwyliau ysgol hefyd.

Llun llyfrgell o nyrs (goodcatmum CCA2.0)