Ifan Morgan Jones sy’n adolygu dydd Sadwrn Penwythnos Mawr Radio 1 o Stad y Faenol…

Gyda fy nhocyn yn boeth yn fy llaw a’r haul yn boeth uwch fy mhen dyma fi’n ymuno gyda’r miloedd o bobol oedd wedi teithio i ystad y Faenol, Bangor ar gyfer Big Weekend Radio 1.

Roeddwn i’n teimlo braidd yn euog gan fy mod i wedi rhoi cyfeiriad cartref fy mam yn hytrach na fy nghartref i yng Ngheredigion, ar ôl clywed bod pobol leol yn fwy tebygol o gael tocynnau! Roedd y trefnwyr wedi dweud o flaen llaw fod ganddyn nhw bolisi llym er mwyn atal pobol rhag gwerthu eu tocynnau ac y bydden nhw’n gofyn i unrhywun a ddrwgdybid am ID. Ond gan mai dim ond ‘Jones, Waunfawr’ oedd ar fy nhocyn byddwn i wedi gallu ei werthu i hanner fy mhentref a fyddai neb dim callach.

Roedd yr haul yn tywynnu’n llachar dros ystad prydferth y Faenol, ond os oedd hi’n chwilboeth tu allan roedd hi’n boethach byth y tu mewn i’r babell fawr las ble’r oedd y prif fandiau yn chwarae. Dim ond 500ml o ddwr oeddech chi’n cael dod gyda chi a roedd hwnna wedi ei lyncu’n sychedig erbyn i’r band cyntaf ddechrau chwarae am 1pm.

Roedd Chris Moyles a BB Aled ar y llwyfan i ddechrau yn ceisio heipio’r dyrfa. Roedd yna rywfaint o jôcs ynglŷn â rhoi enwau Cymraeg i’r bandiau, e.e. Fflorens a’r Peiriant. Fe allen nhw fod wedi mynd ymhellach… Sieryl y Glo, Alisia Allweddi, Jwstin Afanc, ayyb.

Scouting for Girls oedd y band cyntaf welais i. Roeddo’n amlwg nad oedden nhw’n cael eu talu fesul gair oherwydd roedd y prif ganwr yn ddigon bodlon i anelu ei feicroffon i gyfeiriad y dorf a gadael iddyn nhw gymryd drosodd am rannau helaeth o’r set. ‘You are not here just to listen, you are here to take part,’ meddai fo. Digon teg, gan nad oedd neb wedi gorfod talu am y pleser o gael ei wylio. Jesd gobeithio nad oedd Alicia Keys yn disgwyl i fi chwarae’r piano drosti yn ddiweddarach.

Er hynny roedd yn berfformiad digon bywiog a’r peth perffaith er mwyn deffro’r dyrfa a’u paratoi am yr enwau mawr i ddod. Yn anffodus, heblaw am ambell i gân gyfarwydd (She’s so Lovely, o’r hysbyseb Kellog’s, yn bennaf) doedd y gynulleidfa ddim yn gwybod y geiriau ac fe roddod y prif leisydd y gorau i geisio ein perswadio i gyfeilio iddo.

Roedd yna fwlch eitha hir rhwng pob band a chyfle i grwydro’r maes o’r naill babell i’r llall neu i fynd i un o’r amryw o siopau neu lefydd cael bwyd. Roedd y cyfleusterau’n wych. Wnes i ddim gorfod ciwio am fwy na phum munud i fynd at y bar na’r toiledau, ac roeddwn i’n mynychu’r ddau yn gyson drwy gydol y noson. Yr unig boen oedd y prisiau – £3.50 am beint a £5 am fwrger – ond mae hynny i’w ddisgwyl mewn gŵyl am wn i. Yr unig ddiffyg oedd tir y stad oedd yn codi i gyfeiriad y prif lwyfan gan ei gwneud hi’n anoddach i rai weld dros bennau’r pobol o’u blaen.

Yr ail fand ar y brif lwyfan oedd 30 Second to Mars ac fe wnaeth y prif leisydd argraff fawr arna’i gyda’i mohawk coch llachar a’i trenchcoat claerwyn. ‘Are you ready to go f***ing crazy?’ gofynnodd, gan gyhyrfu’r dyrfa a rhoi trawiad ar y galon i un o’r cyhyrchwyr tu ôl i’r llwyfan, mae’n siwr. Roedd o ychydig yn ormod mynd o fand pop mor ysgafn a hwyliog â Scouting for Girls i gael fy hun ynghanol gig roc trwm. Bu bron i fi gael fy llusgo i mewn i mosh pit oedd wedi agor fel trobwll ynghanol y llawr ond llwyddais i gilio i dir mwy diogel, gan osgoi’r poteli cwrw oedd yn disgyn fel cesair o’r nenfwd. ‘I know this is a family show so I’d like to apologise for my language,’ ebe’r canwr pengoch wedyn, gan awgrymu bod rhywun tu ôl i’r llwyfan wedi cael gair.

Doedd gen i ddim lot o awydd gwylio Chipmunk felly fe es i draw i’r llwyfan ‘In New Music We Trust’ i wylio Hadouken, band nad oeddwn i’n gwybod dim oll amdano ond bod yr enw’n ennyn chwilfrydedd. (Bydd unrhywun o fy oed i efallai’n cofio mai cyfeiriad at y gêm gyfrifiadur Street Fighter II ydi o!) Roedd hyn dipyn bach fel neidio o’r badell ffrio i’r tân am mai band New Rave oedd hwn, a digon buan agorodd mosh pit arall i sugno’r gynulleidfa i mewn. Ond roedd y band yn un digon difyr ac yn llenwi’r llwyfan fel y gwnaeth 30 Seconds to Mars.

Penderfynais fynd draw i’r brif lwyfan nesaf i wylio Justin Bieber. Doeddwn i heb glywed unrhywbeth amdano cyn cyrraedd yr ŵyl ond pan grybwyllwyd ei enw’n gynharach o’r llwyfan roedd hanner y gynulleidfa – y dynion – wedi bwio tra bod y merched yn sgrechian yn orffwyll. Es i draw i weld beth fyddai’r ymateb iddo, ond roedd hi’n amlwg bod pawb fyddai’n bwio wedi gadael am y bar gan adael llond pafiliwn o ferched yn eu harddegau’n sgrechian nerth eu pennau. Edrychai Justin Bieber tua deg oed a roedd ganddo lais fel ewinedd yn crafu ar fwrdd du. Dim ond am ryw chwarter awr roedd e’n perfformio a roedd hynny’n rhyddhad mewn rhai ffyrdd.

Cheryl Cole oedd nesaf a hi oedd siom fawr y noson yn fy marn i. Fel un o enwau mwya’r ŵyl roeddwn i wedi disgwyl tipyn o razzamatazz ganddi ond set digon distaw a gawson, bron fel fersiwn acwstig o’i pherfformiadau yn y gigiau mawr. Am rannau helaeth o’r set fer dim ond hi yn sefyll yno ar y llwyfan gyda meicroffon a gafwyd. Roedd yna un neu ddau o ddawnswyr yn chwyrlio o boptu iddi ond doedd hi ddim yn dawnsio gyda nhw’n aml iawn. Efallai fod hynny’n beth da – roedd hi’n edrych yn ddigon bregus i fod wedi torri’n ddau pe bai un o’r dawnswyr wedi cydio ynddi’n rhy galed. Yn waeth byth, ar un pwynt fe wnaeth hi anghofio ei geiriau’n llwyr a dechrau canu pan na ddylai hi ddim.  Fe wnes i adael y babell gan deimlo nad oedd ei gweld hi yn y cnawd yn llawer mwy o brofiad na chlywed un o’i chaneuon ar y radio, ac roedd nifer o fy ffrindiau yn teimlo’r un fath.

Lostprophets oedd nesaf ac roedd y band o Bontypridd yn gwisgo’u Cymreictod yn amlwg gyda llwyfan oedd wedi ei orchuddio gyda baneri Cymru. Yn anffodus welais i ddim lot o’r gig ar ôl rhedeg draw at yr ail lwyfan i weld perfformiad Ellie Goulding. Ond camgymeriad oedd hynny ac roedd rhaid disgwyl ryw hanner awr iddi ymddangos, ac  erbyn hynny roedd yn bryd dychwelyd i’r brif lwyfan er mwyn sicrhau lle da i wylio Alicia Keys.

Roedd y brif babell yn orlawn ar gyfer y perfformiad ac er i mi gyrraedd ryw hanner awr da cyn yr oedd hi i fod i ddechrau roeddwn i ryw ugain llath o’r llwyfan. Ond bu’n rhaid disgwyl awr gyfan cyn y daeth Alicia Keys i’r llwyfan, ac roedd y dorf wedi dechrau bwio cyn hir, yn enwedig ar ôl iddyn nhw wthio piano ar y llwyfan, ac yna newid eu meddyliau a’i wthio oddi ar y llwyfan, cyn i fysellfwrdd ymddangos yn ei le.

Ond unwaith y daeth Alicia Keys i’r llwyfan anghofiodd  y dorf yn llwyr am hynny. Mae hi’n berfformiwr gwych ac roedd y dorf wedi ei swyno’n llwyr, er gwaetha’r ffaith ei bod hi’n gwisgo bag bin fel trowsus. Roedd Radio 1 wedi codi gobeithion braidd drwy awgrymu y byddai hi’n canu fersiwn North Wales o’i chân eiconig Empire State of Mind. Ond New York, New York oedd hi dim North Wales, North Wales… er iddi ychwangu un ‘North Wales’ ar y diwedd a gyrru’r dorf yn wyllt. Hi oedd perfformiwr gorau’r noson yn sicr.

Un peth wnaeth fy nharo i wrth wylio’r bandiau oedd cymaint o’r dorf oedd yn ffilmio’r cyfan ar eu ffonau symudol ac yn tynnu lluniau drwy gydol y gig, fel pe bai rhoi fideo neu lun ar Facebook yn bwysicach na’r perfformiad ei hun. Wrth wylio Alicia Keys roedd gen i gannoedd o sgriniau bach o fy mlaen i a wnaethon nhw ddim diflannu drwy gydol y sioe.

Fe wnes i ddianc o’r babell yn ystod rapio Dizzie Rascal er mwyn cael tipyn o awyr iach a peint neu ddau, ond hyd yn oed o’r tu allan roedd hwyl y dorf i’w chlywed yn amlwg. Ac fe wnaeth e ddwyn syniad y Genod Droog o Sesiwn Fawr 2007 a rhyddhau peli llawn confetti ar ben y dyrfa.

Florence and the Machine oedd penllanw’r noson ac alla i ddim dweud mod i’n orgyfarwydd â’u cerddoriaeth nhw. Rhyw gymysgedd o roc a cherddoriaeth soul oedd ganddynt, ac roedd yna delyn ar y llwyfan yn ogystal â chôr cyfan gan roi blas Cymreig i bethau! Fe wnes i fwynhau’r set oedd tua awr o hyd ond erbyn hynny roedd y coesau’n dechrau gwegian ar ôl bod ar fy nhraed drwy’r dydd a doeddwn i ddim yn gweiddi am encôr mor uchel a rhai o’r lleill. Ond dyna a gafwyd a daeth Dizzie Rascal i’r llwyfan hefyd gan gyfuno roc, soul a rap mewn un cymysgedd oedd mae’n siwr yn torri tir newydd, ond doeddwn i ddim callach!

Tua deg o’r gloch daeth y cyfan i ben a roedd hen ddigon o amser i’w throi hi am Fangor neu Caernarfon am beint neu ddau cyn troi am adref. Roedd cyfuniad o’r cerddoriaeth a’r haul wedi ei gwneud yn ddiwrnod heb ei ail, a heb orfod talu ceiniog am y pleser am gael bod yno doedd dim lle i gwyno a lot i ddiolch amdano!