Cafodd geneth dair oed ei rhuthro i’r ysbyty’r prynhawn yma ar ôl iddi gael ei darganfod yn anymwybodol yn y môr ger traeth Coney, Porthcawl.
Caodd yr eneth fach ei chipio o’r dŵr gan rywun yn pasio heibio a roddodd gusan bywyd iddi ar ôl sylwi nad oedd hi’n anadlu.
Llwyddodd i gael yr eneth i anadlu ac roedd yn ymwybodol erbyn i barafeddygon gyrraedd. Cafodd ei rhuthro i ysbyty Pen-y-bont ar Ogwr lle mae bellach yn gwella.
Mae Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau wedi rhybuddio rhieni o’r angen i gadw golwg barhaus ar eu plant pan maen nhw’n chwarae ar draeth.
“Mae’r eneth fach yn fyw diolch i aelod o’r cyhoedd a’i tynnodd o’r môr a gweinyddu CPR, ac i ymateb cyflym yr achubwyr,” meddai Dai Jones, rheolwr Gwylwyr y Glannau Abertawe.
“Pwyswn yn daer ar rieni fod yn wyliadwrus bob amser a chadw llygad ar eu plant pan maen nhw’n chwarae ar draeth, yn enwedig yn ystod cyfnodau prysur pan mae’n hawdd iddyn nhw fynd ar goll neu grwydro.”
Llun: Traeth Coney, Porthcawl, lle cafodd yr eneth ei hachub y prynhawn yma.