Bydd gweithwyr British Airways yn mynd ar streic yfory ar ôl i obeithion am gytundeb munud olaf gael eu chwalu.

Yn gynharach heddiw, roedd arweinydd un o’r undebau sydd mewn anghydfod â BA wedi cynnig gohirio’r streic os bydd y cwmni’n cytuno i roi consesiynau teithio’n ôl i weithwyr a fu ar streic o’r blaen.

Ond wrth wrthod cynnig yr undeb Unite, mae British Airways yn cyhuddo’r undeb a’i arweinydd Tony Woodley o wrthod cynigion y cwmni i drafod agweddau eraill o’r anghydfod gyda nhw trwy’r gwasanaeth cymodi Acas.

Dywed BA mai eu blaenoriaeth nhw bellach yw helpu cwsmeriaid sydd wedi cael eu dal yng nghanol yr anghydfod, gan ddweud y byddan nhw’n canolbwyntio ar hedfan degau o filoedd o deithwyr dros y dyddiau nesaf er gwaethaf y streic.

Meddai llefarydd ar ran y cwmni awyrennau:

“Bydd pob taith o feysydd awyr Gatwick a Dinas Llundain yn hedfan fel arfer. Yn Heathrow, rydym yn disgwyl gallu rhedeg mwy na 60% o wasanaethau teithiau hir, a 50% o deithiau byrrach, a byddwn yn ychwanegu at hynny lle gallwn ni.”