Ddiwrnod ar ôl i gefnogwyr yr Adar Glas gael eu siomi yn Wembley ddoe, mae cefnogwyr rygbi Caerdydd yn dathlu heno ar ôl i’r Gleision drechu Toulon o 28 i 21 y prynhawn yma.

Gan synnu’r dorf yn Stade Velodrome, Marseille wrth gipio Her Gwpan Amlin, y Gleision yw’r tîm cyntaf o Gymru i ennill teitl Ewropeaidd o’r fath.

Mae buddugoliaeth y Gleision yn newyddion da i’r Scarlets hefyd – gan ei fod yn agor y drws iddyn nhw i Gwpan Heineken y flwyddyn nesaf. Drwy fod y Gleision wedi ennill eu lle i’r Cwpan Heineken fel buddugwyr Cwpan Amlin, mae’n golygu y bydd y Scarlets yn gallu mynd trwodd fel y trydydd rhanbarth o Gymru.

Yn gynharach yn yr wythnos, roedd un o gefnogwyr selocaf y Scarlets, yr actor Emyr Wyn, wedi dweud y byddai holl gefnogwyr y Scarlets yn cefnogi Caerdydd heddiw – er mor chwithig oedd hynny iddyn nhw.

Toulon oedd y ffefrynnau o ddigon i ennill heddiw, a nhw oedd ar y blaen 13-6 ar ddiwedd yr hanner cyntaf.

Ond aeth y dorf o 50,000 yn fud wrth i Jamie Roberts, Leigh Halfpenny a Bradley Davies sgorio ceisiau yn yr ail hanner i selio’r fuddugoliaeth i’r ymwelwyr o Gymru.

Fe all y bydd cefnogwyr Lloegr hefyd yn bryderus heno – un o’r chwaraewyr i orfod gadael y cae ar ganol y gêm oedd Jonny Wilkinson, gydag amheuaeth y gall fod wedi torri asen.

Llun: Ben Blair a drosodd geisiau a sgorio ciciau cosb i sicrhau buddugoliaeth hanesyddol i’r Gleision.