Mae’r tywydd cynnes wedi golygu prynhawn prysur iawn i Wylwyr y Glannau Abertawe, wrth iddyn nhw orfod ymateb i 12 o ddigwyddiadau o fewn dwyawr.
Roedd y digwyddiadau hyn cynnwys tri o blant ar goll, kayak wedi troi drosodd a sgïwr jet wedi cael eu hanafu.
Fe fu Gwylwyr y Glannau Abertawe yn helpu trefnu achubwyr i chwilio am eneth 5 oed a oedd wedi mynd ar goll yn Burnham-on-Sea yng Ngwlad yr Haf, a chafwyd hyd iddi gan yr heddlu ar draeth cyfagos ymhen tuag awr a hanner.
Fe fuon nhw hefyd yn helpu trefnu geneth arall 6 oed a aeth ar goll yn Burnham, a bachgen 5 oed yn Rhossili.
Yn ogystal, cafodd dyn ei achub gan fad achub RNLI y Mwmbwls ar ôl i’w kayak droi drosodd, a chafodd dynes ei chludo i’r ysbyty mewn ambiwlans awyr ar ôl cael ei hanafu mewn damwain jet-ski ger traeth Port Eynon ar Benrhyn Gŵyr.
Meddai Rheolwr Gwylwyr y Glannau Abertawe, Dai Jones:
“Rydym wedi cael prynhawn hynod o brysur, gyda llawer o ddigwyddiadau o ganlyniad i’r tywydd cynnes. Hoffem atgoffa aelodau o’r cyhoedd i fod yn wyliadwrus wrth fynd â phlant i’r traeth, oherwydd ar dyddiau fel hyn pan mae’r traethau’n llawn o bobl, does ond rhaid i blant ddiflannu am eiliad cyn y gallan nhw fynd ar goll.”
Deifiwr yn marw
Cafodd dyn 41 oed o Gaerdydd ei ladd ddoe wrth ddeifio i’r môr gerllaw Portland Bill ar arfordir Dorset.
Ar ôl i wylwyr y glannau gael eu galw ychydig wedi 1pm, aed â’r dyn mewn hofrennydd i’r ysbyty, ond roedd eisoes wedi marw erbyn cyrraedd.