Mae arweinydd un o’r undebau sydd mewn anghydfod gyda British Airways wedi cynnig gohirio’r streic yfory os bydd y cwmni’n cytuno i roi consesiynau teithio’n ôl i weithwyr a fu ar streic o’r blaen.
Dywedodd Tony Woodley, cyd-arweinydd Unite, fod cytundeb mewn egwyddor i roi’r gorau i’r anghydfod, a bod “cynnydd da” wedi cael ei wneud cyn i aelodau o’r Socialist Workers Party dorri ar draws y trafodaethau ddoe.
Bu’n rhaid i Tony Woodley a phrif weithredwr BA, Willie Walsh, adael yr adeilad trwy’r drws cefn yn sgil yr helynt.
Oni fydd BA yn ymateb i gynnig Unite, bydd miloedd o aelodau’r undeb yn cerdded allan am bum niwrnod yfory, gyda dwy streic bum diwrnod arall wedi eu trefnu ar gyfer yr wythnosau nesaf.
“Rydym eisoes wedi eu gwneud hi’n glir ein bod ni a’r cwmni’n cytuno mewn egwyddor ar y materion busnes,” meddai Tony Woodley.
“Fel arwydd o ewyllys dda dw i’n gwneud y cynnig yma – os bydd Willie Walsh yn barod i gytuno i roi’r consesiynau teithio’n ôl i’n haelodau, bydd yr undeb yn gohirio streic heno, er mwyn ein galluogi ni i barhau i gynnal ein busnes mewn ffordd weddus a phriodol.”
‘Parod am y streic’
Yn gynharach yn y dydd, dywedodd Willie Walsh fod BA yn barod am y streic gan fod gan y cwmni ddigon o gynlluniau wrth gefn i’w alluogi i barhau i hedfan.
“Fe fydd British Airways yn hedfan yfory,” meddai. “Wnawn ni ddim cymryd ein rhwystro gan weithredoedd lleiafrif bychan sy’n amlwg allan o gysylltiad â realiti.”
Daw’r streic ar adeg pan mae BA wedi gwneud mwy o golledion nag erioed – £531 dros y flwyddyn ddiwethaf – yn sgil llai o deithwyr, costau uwch ac effaith yr anghydfod.
Ond mynnodd Willie Walsh ei fod yn edrych yn ffyddiog i’r dyfodol:
“Bydd BA yn goroesi ac fe fydd yn gryfach oherwydd rydym yn mynd i’r afael â’r problemau craidd,” meddai.
Llun: Willie Walsh, Prif Weithredwr British Airways (Jeff Overs/BBC/Gwifren PA)