Mae dau ddyn wedi cael eu harestio yn Iwerddon mewn cysylltiad â’r hyn y mae heddlu’r Weriniaeth yn ei alw’n ‘ffatri gwneud bomiau’ yn Dundalk, i’r gogledd o Ddulyn.

Wrth ganmol yr heddlu am ddarganfod yr ymgais i gynhyrchu ffrwydron ar gyfer gweriniaethwyr sy’n gwrthwynebu’r broses heddwch, dywed Gweinidog Cyfiawnder y Weriniaeth, Dermot Ahern, fod bywydau wedi cael eu harbed o’r herwydd.

Y gred yw fod y ffrwydron wedi eu bwriadu ar gyfer ymosodiad yng Ngogledd Iwerddon yn y dyfodol agos

Dywedodd Dermot Ahern fod y bygythiad oddi wrth grwpiau gwrthryfelgar yn un difrifol, ond mynnodd fod awdurdodau i’r gogledd a’r de o’r ffin yn benderfynol o’u rhwystro.

“Roedd cyrch neithiwr yn llwyddiannus iawn, ac mae bywydau wedi cael eu harbed o ganlyniad,” meddai.

Ychwanegodd fod y cydweithio rhwng Prydain a Gweriniaeth Iwerddon ar faterion diogelwch yn well nag erioed.

Aed â’r ddau ddyn a gafodd eu harestio, 23 a 52 oed, i orsaf Garda Drogheda i gael eu holi, a gallant gael eu cadw am hyd at dri diwrnod o dan Adran 30 o Ddeddf Troseddau yn erbyn y Wladwriaeth.

Yn y cyfamser mae arbenigwyr fforensig y Garda’n dal i archwilio’r safle lle cafwyd hyd i’r ffrwydron a oedd yn cynnwys dau silindr nwy.

Llun: Arbenigwyr fforensig yn archwilio’r safle lle cafwyd hyd i ffrwydron yn Dundalk, Swydd Louth (Niall Carson/Gwifren PA)