Clwb Ffermwyr Ifanc Pontsian a enillodd Rali Ffermwyr Ifanc Ceredigion, a hynny o drwch blewyn oddi wrth CFfI Talybont.
Roedd Talybont wedi ennill mwy o wobrau cyntaf – yn enwedig ym maes barnu stoc – ond fe sgoriodd Pontsian yn gyson mewn nifer o gystadlaethau.
Yn y diwedd, roedd llai nag ugain pwynt rhwng y deg clwb uchaf, gyda Llanwenog a Chaerwedros yn rhannu’r trydydd safle.
Pontsian yn dathlu
Wrth annerch y rali a oedd wedi’i threfnu gan Glwb Llanddeiniol ar dir Gwarfelin, Llanrhystud, fe alwodd Llywydd y Dydd, Ieuan Parry, ar i Fwrdd yr Iaith roi rhagor o arian i’r Ffermwyr Ifanc.
Roedd y Bwrdd yn delio â symiau mawr o arian, meddai, ond doedden nhw ddim yn cyfrannu llawer at y mudiad, er bod y rali’n enghraifft o Gymreictod naturiol.
Am y tro cynta’ erioed, merch o Langeitho a gafodd ei choroni’n Frenhines y Sir – mae Sara Downes yn dod o gefndir di-Gymraeg ond wedi bwrw i ganol gweithgarwch y Ffermwyr Ifanc ers blynyddoedd.
Brenhines y Sir – Sara Downes – yn cyrraedd mewn bygi golff. Nid teyrnged i Andy Powell, ond rhan o thema’r rali.
Dyma’r pump uchaf:
Pontsian 156
Talybont 154
Llanwenog 147
Caerwedros 147
Mydroilyn 142
Dyma rai o uchafbwyntiau eraill y dydd, mewn lluniau ….
Seremoni cornoi’r frenhines
Caerwedros – enillwyr Arddangosfa’r Prif Gylch – croeso i Eisteddfod yr Urdd
Arddangosfa’r Prif Gylch – Troedyraur, a Dai Jones, Llanilar, yn rhoi croeso i Sioe’r Cardis
Cystadleuaeth Tableau – Felinfach wrth eu gwaith
Y cyntaf yn y Crefft – tlws ar gyfer Cystadleuaeth Gneifio’r Byd gan Talybont
Enillwyr y Coedwigaeth – Troedyraur – yn cael eu holi ar gyfer y rhaglen Ffermio
Enillwyr Cystadleuaeth Olrhain Hanes – Llangeitho’n talu teyrnged i’r bostfeistres a’r cymeriad, Marie James
Enillwyr cystadleuaeth Seren Wib – Llanwenog
Seren Wib – ‘Tair Chwaer’ o Fytdroilyn
Seren Wib – dwy Duffy a dwy Lowri – Lowri Jones o Garwedros a Lowri Evans o Droedyraur
Dawnsio – Mydroilyn
Dawnsio – yr enillwyr, Pontsian