Mae’r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg wedi cyhuddo’r hen llywodraeth Lafur o wario’n hollol ddi-hid ac o wneud addewidion yr oedd yn gwybod yn iawn na ellid eu gwireddu.

Rhybuddiodd fod yr “oes o ddigonedd” drosodd ac y bydd yn rhaid i’r llywodraeth glymblaid gymryd penderfyniadau amhoblogaidd wrth fynd i’r afael â’r “twll du” yn arian y llywodraeth a gafodd ei adael ar ôl gan Gordon Brown.

“Roedd yr hen lywodraeth Lafur yn taflu arian o gwmpas fel pe na bai yfory’n bod, mae’n debyg gan wybod eu bod nhw am golli’r etholiad, gan wneud addewidion yr oedden nhw’n gwybod yn iawn na ellid eu gwireddu,” meddai Nick Clegg.

“Felly yn ogystal â gwneud toriadau, mae’n rhaid inni hefyd fynd i’r afael ag addewidion a wnaeth y llywodraeth yn y gorffennol heb hyd yn oed ddarparu cyllidebau ar eu cyfer.

“Mae’r oes o ddigonedd pan y gellid taflu arian o gwmpas yn ddi-hid, fel a wnaeth yr hen lywodraeth Lafur, drosodd bellach.”

Argyfwng yr Ewro

Er bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi cytuno â’r Blaid Lafur yn ystod yr ymgyrch etholiadaol fod yr economi’n rhy wan i fod yn torri ar wariant eleni, dywedodd Nick Clegg heddiw fod yr argyfwng yng ngwledydd yr Ewro wedi newid y sefyllfa.

“Dw i ddim yn meddwl y byddai neb wedi rhagweld y dirywiad yng nghyflwr economaidd gwledydd yr Ewro,” meddai.

“Dyna pam fod angen amserlen gyflymach nad oeddwn i wedi ei bwriadu ar y dechrau ar gyfer mynd i’r afael â’r twll du mawr yma yn ein cyllid cyhoeddus.”

Llun: Y Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg (Oli Scarff/Gwifren PA)