Mae ymgyrchwr amgylcheddol o Brydain wedi torri record wrth ddod y person cyntaf i nofio ar draws llyn rhewllyd yn uchel ar lethrau mynydd Everest.

Fe wnaeth Lewis Gordon Pugh, 40 oed, nofio un cilomedr ar draws llyn rhewlifol Pumori, sydd 5,300 metr uwchlaw lefel y môr – heb ddim amdano heblaw ei speedos, goglau a het nofio. Fe gymerodd 22 munud a 51 eiliad i gyflawni ei gamp.

Nod yr anturiaethwr, a oedd eisoes wedi nofio yn Antarctica a Phegwn y Gogledd, oedd tynnu sylw at y graddau y mae rhewlifoledd yn meirioli yn yr Himalayas o ganlyniad i gynhesu byd-eang.

Wrth gyflawni ei gamp, llwyddodd i nofio mewn dŵr nad oedd ond 2 gradd C mewn tymheredd a bu’n rhaid iddo frwydro yn erbyn salwch uchder.

“Dyma oedd un o’r lleoedd mwyaf anodd imi erioed nofio,” meddai Lewis Pugh. “Pan wnes i nofio yn Antarctica ac ar draws Pegwn y Gogledd, fe wnes i nofio’n gyflym ac yn ffyrnig, ond ar Fynydd Everest ellwch chi ddim defnyddio’r un tactegau. Oherwydd yr uchder rhaid ichi nofio’n araf a phenderfynol iawn.

“Roedd yn rhaid parchu’r uchder – petawn i wedi ceisio nofio’n gyflymach fe fyddwn i wedi boddi.”

Newid yn yr hinsawdd

Gan alw ar lywodraethau ledled y byd i wneud mwy i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, dywedodd y nofiwr ei fod yn siomedig na chafodd y pwnc fwy o sylw yn yr etholiad cyffredinol ym Mhrydain.

“Fe fyddwn i’n pwyso ar arweinwyr ym Mhrydain a ledled y byd i roi newid yn yr hinsawdd ar frig eu agenda,” meddai.

“Dw i wedi gweld rhewlifoedd yn yr Arctig, yr Alpau, Canolbarth Affrica, Antarctica a’r Himalayas – a’r un yw’r stori ymhobman. Mae’r rhewlifoedd yn toddi ymaith. Ac nid dim ond rhew yw’r rhewlifoedd yn yr Himalayas – maen nhw’n ffynhonnell o ddŵr i tua dwy biliwn o bobl.”

Ychwanegodd ei fod yn gobeithio dangos ffilmiau o’i brofiadau y mae wedi ei weld i David Cameron a Nick Clegg ar ôl dychwelyd i Brydain.

Llun: Lewis Pugh ar ôl cwblhau ei gamp yn llyn rhewlifol Pumori ar lethrau Everest (Michael Walker/Gwifren PA)