Mae disgwyl mai heddiw fydd diwrnod poetha’r flwyddyn hyd yma yn y rhan fwyaf o Gymru a Lloegr wrth i’r tywydd braf barhau.

Gyda’r tymheredd yn boethach nag mewn rhannau o’r Môr Canoldir ddoe roedd miloedd o bobl allan yn manteisio ar wres yr haul ym mharciau’r dinasoedd yn ogystal â threfi glan môr.

Cofnodwyd tymheredd o 24 gradd C yng Nghaerdydd, Llundain a Blackpool, ac dros 27 gradd ym Manceinion – sy’n cymharu â thymheredd cyfartalog o 21 gradd C ar rai o ynysoedd Groeg.

Mae’r rhagolygon am ddiwrnod poethach fyth heddiw, er y gall oeri yng ngogledd Lloegr a’r Alban.

Yn anffodus, does dim disgwyl i’r tywydd braf bara’n hir – mae cawodydd o law yn cael eu darogan at ddydd Mawrth, a thywydd ansefydlog sy’n debygol dros y Sulgwyn hefyd.

Hufen ia a barbeciw

Mae gwerthiant hufen ia a selsig wedi saethu i fyny dros y penwythnos wrth i siopwyr fanteisio ar y tywydd braf i gynnal barbeciws.

Dywedodd Tesco iddyn nhw werthu dros filiwn litr o hufen ia ddoe, ac mae’n disgwyl gwerthu tua 13 miliwn o selsigau dros y ddeuddydd nesaf.

Dros y penwythnos mae’r cwmni archfarchnad yn disgwyl y bydd wedi gwerthu:
• 5.5 miliwn o fyrgers
• 250,000 tunnell o frest cyw iâr
• 500,000 o kebabs
• 30 miliwn o boteli o gwrw
• 3 miliwn o boteli o win
• 500,000 o setiau barbeciw.

“Ac eithrio ambell diwrnod heulog dydyn ni ddim wedi cael llawer o gyfleoedd am barbeciw hyd yma eleni, felly dyna pam yr ydyn ni wedi gweld cymaint o alw yn ein siopau ledled Prydain dros y dyddiau diwethaf,” meddai llefarydd ar ran Tesco.

Llun: Rhai o’r miloedd o bobl yn mwynhau’r tywydd braf yn Hampstead Heath, Llundain ddoe (Johnny Green/Gwifren PA)