Mae disgwyl y bydd y toriadau mewn gwario cyhoeddus a fydd yn cael eu cyhoeddi gan y Canghellor George Osborne yfory yn cynnwys ‘coelcerth o’r cwangos’.
Gyda’r llywodraeth glymblaid wedi ymrwymo i wneud toriadau o £6 biliwm mewn gwario cyhoeddus eleni, dywedodd y Canghellor y bydd mwyafrif llethol yr arbedion yn mynd at ddechrau talu’r ddyled o £156 biliwn y mae llywodraeth Prydain ynddi.
Mae disgwyl y bydd dros £500 miliwn o arbedion yn dod trwy ddiddymu cwangos fel yr Asiantaeth Datblygu Cymwysterau a’r Cwricwlwm yn Lloegr.
Mae disgwyl hefyd y bydd yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau – adran y Democrat Rhyddfrydol Vince Cable – yn un o’r rhai a fydd yn dioddef fwyaf, gyda thoriadau o £900 miliwn yn debygol.
Dywedir bod y Trysorlys wedi cael hyd i arbedion o sylweddol o’r £3 biliwn o gyllideb teithio blynyddol Whitehall – sy’n cynnwys £125 miliwn ar dacsis, £320 miliwn ar westyau a £70 miliwn ar hedfan.
Disgwylir arbedion yn ogystal o’r £1 biliwn sy’n cael ei wario gan y llywodraeth ar hysbysebu, a’r £580 miliwn ar ddodrefn swyddfa.
Gallai prosiectau unigol gael eu taro hefyd, gan gynnwys grant adnewyddu o £8 miliwn i Dŵr Blackpool a gytunwyd yn nyddiau olaf y llywodraeth Lafur.