Mae undeb Unite yn barod i ail ddechrau trafod gyda British Airways ar “unrhyw adeg”, medden nhw, ar ôl i brotestwyr asgell chwith eithafol chwalu eu cyfarfod ddoe.

Yn ôl rhai adroddiadau, roedd peth cynnydd yn y trafodaethau cyn i aelodau o’r Socialist Workers Party dorri i mewn i’r adeilad yng nghanol Llundain lle’r oedd y ddwy ochr yn cwrdd.

Fe lwyddon nhw i gyrraedd y 23fed llawr ac amgylchynu’r trafodwyr, gan gynnwys Prif Weithredwr British Airways, Willie Walsh, a chyd Ysgrifennydd Cyffredinol Unite, Tony Woodley.

Fe waeddodd yntau arnyn nhw i “gau eu cegau” wrth iddyn nhw siantio a gweddi sloganau a gwrthod symud nes i’r heddlu eu clirio.

Yn y cyfamser, roedd Willie Walsh wedi cael ei symud i lawr arall a’i hebrwng allan o’r adeilad trwy ddrws cefn.

Ailddechrau

Fe ddywedodd llefarydd ar ran y corff cymodi Acas, sy’n cadeirio’r trafodaethau, y byddan nhw’n cysylltu gyda’r cwmni a’r undeb eto yn fuan.

Os bydd y ddwy ochr yn cyfarfod eto, y disgwyl yw y bydd hynny mewn lle dirgel, gyda llawer gwell trefniadau diogelwch.

Ond roedd yna ffrae arall hefyd, gyda BA’n cyhuddo arweinydd arall Unite, Derek Simpson, o anfon negeseuon trydar ar wefan Tweet yn dweud beth oedd yn digwydd yn y cyfarfod.

Trio tynnu sylw oddi wrth y prif bwnc y mae’r cwmni, meddai’r undeb, sy’n bwriadu cynnal streic o weithwyr caban fory.

Llun: Maes awyr gwaga deg streiciau diwetha’ BA