Fydd dim ffordd frics felen i Sophie Evans, y ferch o’r Rhondda, ar ôl colli yn rownd derfynol rhaglen y BBC, Over the Rainbow.
Danielle Hope sydd wedi ennill rhan Dorothy yng nghynhyrchiad newydd Andrew Lloyd Webber o’r sioe gerddorol y Wizard of Oz yn y West End yn Llundain.
Roedd y Gymraes 17 oed wedi bod yn ffefryn cyson gyda’r gwylwyr ar hyd y gyfres ond fe gollodd yn y bleidlais ola’.
Dim ond pleidlais fwrw gan yr Arglwydd Lloyd Webber ei hun oedd wedi achub Danielle Hope mewn rhaglenni cynt.
Roedd Sophie Evans wedi gobeithio dilyn yn ôl traed Connie Fisher o Sir Benfro sydd wedi creu gyrfa ganu lwyddiannus ar ôl ennill y gyfres gynta’ o raglenni o’r fath a chael lle mewn cynhyrchiad o’r Sound of Music.
Llun: Sophie Evans (BBC)