Doedd hi ddim yn union fel diwedd Grand Prix ond roedd yna siampên wrth i’r gyrrwr Don Wales ddathlu torri record cyflymder y byd, ar gefn peiriant torri gwair.
Fe ddaeth i draeth Pendein yn Sir Gaerfyrddin i daro cyflymder o 86.069 milltir yr awr tros bellter o union filltir, gan dorri’r record cynharach o 80.792.
Ond dyw hynna ddim yn ddigon, meddai’r tîm cefnogi; maen nhw am roi cynnig arall arni heddiw yn y gobaith o gyrraedd 100 milltir yr awr.
Mae’r peiriant torri gwair wedi ei addasu’n arbennig ond roedd rhaid profi hefyd ei fod yn gallu torri gwair ac mai dyna brif bwrpas y peiriant.
Roedd hi’n addas bod Don Wales wedi dod i Bendein – yno y llwyddodd ei dad-cu, Syr Malcolm Campbell, i dorri record cyflymder y byd yn 1924, a hynny mewn car.
Yr Amgueddfa Foduro Genedlaethol yn Lloegr oedd wedi cael y syniad o geisio torri’r record ac roedd yr ymgais yn codi arian at Ysbyty Plant Great Ormond Street yn Llundain.
Llun: Don Wales yn dathlu (Gwifren PA)